(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mewnosodwyd adran 144A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gan adran 56 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod.
Mae adran 144A(4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad blynyddol fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf yr adroddiad blynyddol. Mae’r gofynion o ran ffurf yr adroddiad blynyddol wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i’r Rheoliadau. Mae’r Atodlen yn disgrifio’r penawdau y mae rhaid i’r wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei chynnwys yn yr adroddiad blynyddol gael eu nodi odanynt.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.