NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r fformiwla i’w defnyddio wrth gyfrifo pris adbrynu rhent-daliadau a rhenti eraill yng Nghymru.

Mae’r fformiwla yn defnyddio cyfradd log “dros 30 ond nid dros 30.5 mlynedd” gyhoeddedig y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol (mae hyn yn darparu gwerth yr “Y” yn y fformiwla ragnodedig). Cyhoeddir cyfraddau llog y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol ar wefan Swyddfa Rheoli Dyledion y DU ar www.dmo.gov.uk. Cyhoeddir y cyfraddau llog fel cyfraddau canrannol ac mae angen eu trosi i ffracsiynau degol (eu rhannu â 100) cyn bod modd eu defnyddio yn y fformiwla ragnodedig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.