xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 26 (Cy. 10)

Rhenti A Rhent-daliadau, Cymru

Rheoliadau Rhent-daliadau (Pris Adbrynu) (Cymru) 2017

Gwnaed

16 Ionawr 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Ionawr 2017

Yn dod i rym

10 Chwefror 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 10(1) o Ddeddf Rhent-daliadau 1977(1) ac a freinir bellach ynddynt hwy(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhent-daliadau (Pris Adbrynu) (Cymru) 2017, a deuant i rym ar 10 Chwefror 2017.

2.  Pris Adbrynu

3.—(1At ddibenion—

(a)adran 9 o Ddeddf Rhent-daliadau 1977(3), a

(b)adran 9 o Ddeddf Rhent-daliadau 1977 fel y’i cymhwysir gan adran 20(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927(4),

cyfrifir y pris adbrynu mewn perthynas â thir yng Nghymru drwy gymhwyso’r fformiwla a ganlyn—

(2At ddibenion y fformiwla ym mharagraff (1)—

(3Ym mharagraff (2), y gyfradd aeddfedu yw’r gyfradd log sydd wedi ei chyhoeddi ar ddiwedd y diwrnod busnes ar ddiwrnod masnachu olaf yr wythnos cyn yr wythnos y cyflwynir y cyfarwyddiadau i adbrynu o dan adran 9(4) o Ddeddf Rhent-daliadau 1977.

Carl Sargeant

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru

16 Ionawr 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r fformiwla i’w defnyddio wrth gyfrifo pris adbrynu rhent-daliadau a rhenti eraill yng Nghymru.

Mae’r fformiwla yn defnyddio cyfradd log “dros 30 ond nid dros 30.5 mlynedd” gyhoeddedig y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol (mae hyn yn darparu gwerth yr “Y” yn y fformiwla ragnodedig). Cyhoeddir cyfraddau llog y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol ar wefan Swyddfa Rheoli Dyledion y DU ar www.dmo.gov.uk. Cyhoeddir y cyfraddau llog fel cyfraddau canrannol ac mae angen eu trosi i ffracsiynau degol (eu rhannu â 100) cyn bod modd eu defnyddio yn y fformiwla ragnodedig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1977 p. 30; amnewidiwyd adran 10(1) gan adran 137(1) a (3) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddi. Trosglwyddwyd y swyddogaethau wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Diwygiwyd adran 9(4)(a) gan adran 137(1) a (2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(4)

1927 p. 36; diwygiwyd adran 20 gan adran 17(1) o Ddeddf Rhent-daliadau 1977, a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi; adran 143 o Ddeddf Tai 1980 (p. 51); ac O.S. 1955/554, 1965/143, 1967/156 a 1970/1681. Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 20 o Ddeddf Landlord a Thenant 1927, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.