2017 Rhif 239 (Cy. 65) (C. 21)
Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 3) 2017

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 59(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20151, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 3) 2017.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 20172.

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2017—

(a)

adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd);

(b)

adran 15(1)(b) i (d) ac adran 15(2) (dyletswydd CCAUC i fonitro cydymffurfedd ac i werthuso effeithiolrwydd);

(c)

adran 26 (cymhwyso Rhan 3 pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywyd);

(d)

adran 27(4) (dyletswydd corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig mewn cysylltiad â’r cod rheolaeth ariannol);

(e)

adrannau 31 i 36 (monitro cydymffurfedd â’r cod a phwerau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r cod);

(f)

adran 37(1) i (6) ac adran 37(8) a (9) (hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);

(g)

adran 39(1) i (3) ac adran 39(5) (pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl);

(h)

adran 41(1)(c) ac adran 41(1)(e) i (g) (cymhwyso adrannau 42 i 44);

(i)

adran 50 (adroddiadau blynyddol);

(j)

adran 51(1)(b) i (d) ac adran 51(1)(f) (adroddiadau arbennig);

(k)

adran 54(2) (dyletswydd corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig mewn cysylltiad â gwybodaeth neu gyngor a roddir gan CCAUC o dan adran 54(1)(b));

(l)

adran 58(1) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau o Ran 1 o’r Atodlen y cyfeirir atynt ym mharagraff (m); ac

(m)

yn Rhan 1 o’r Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—

(i)

paragraff 1 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 3 a 4; a

(ii)

paragraffau 3 i 6.

Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”). Mae’n dwyn i rym ar 1 Awst 2017 y darpariaethau hynny o’r Ddeddf nad ydynt eisoes mewn grym.

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2015 (O.S. 2015/1327) (Cy. 122) (C. 74) oedd y gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed o dan y Ddeddf. Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2016 (O.S. 2016/110) (Cy. 54) (C. 9) oedd yr ail orchymyn cychwyn a wnaed o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 2(a) yn dwyn i rym adran 13 o’r Ddeddf. Mae adran 13 yn galluogi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) i roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu sefydliad pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

Mae erthygl 2(b) yn dwyn i rym adran 15(1)(b) i (d) ac adran 15(2) o’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud â dyletswydd CCAUC i fonitro cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd ac i werthuso effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd.

Mae erthygl 2(c) yn dwyn i rym adran 26 o’r Ddeddf. Mae adran 26 yn darparu ar gyfer cymhwyso Rhan 3 o’r Ddeddf pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywyd.

Mae erthygl 2(d) yn dwyn i rym adran 27(4) o’r Ddeddf. Mae adran 27(4) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y cod rheolaeth ariannol ac ystyried unrhyw ganllawiau sydd yn y cod hwnnw.

Mae erthygl 2(e) yn dwyn i rym adrannau 31 i 36 o’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud â dyletswydd CCAUC i fonitro, neu i wneud trefniadau ar gyfer monitro, cydymffurfedd sefydliadau rheoleiddiedig â’r cod rheolaeth ariannol a phwerau CCAUC mewn cysylltiad â methiant sefydliad, neu fethiant tebygol sefydliad, i gydymffurfio â gofyniad a osodir gan y cod.

Mae erthygl 2(f) yn dwyn i rym adran 37(1) i (6) ac adran 37(8) a (9) o’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud â phŵer CCAUC i roi hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd.

Mae erthygl 2(g) yn dwyn i rym adran 39(1) i (3) ac adran 39(5) o’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud â phŵer CCAUC i dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad.

Mae erthygl 2(h) yn dwyn i rym adran 41(1)(c) ac adran 41(1)(e) i (g) o’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud â’r hysbysiad rhybuddio a’r weithdrefn adolygu sy’n gymwys mewn perthynas â hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol y caiff CCAUC eu rhoi.

Mae erthygl 2(i) yn dwyn i rym adran 50 o’r Ddeddf. Mae adran 50 yn darparu ar gyfer yr adroddiadau blynyddol sydd i gael eu gwneud gan CCAUC.

Mae erthygl 2(j) yn dwyn i rym adran 51(1)(b) i (d) ac adran 51(1)(f) o’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud â gwneud adroddiadau arbennig gan CCAUC.

Mae erthygl 2(k) yn dwyn i rym adran 54(2) o’r Ddeddf. Mae adran 54(2) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig, wrth arfer ei swyddogaethau, ystyried gwybodaeth neu gyngor a roddir gan CCAUC o dan adran 54(1)(b).

Mae erthygl 2(l) ac erthygl 2(m) yn dwyn i rym y mân ddiwygiadau a’r diwygiadau canlyniadol sy’n weddill yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf. Mae’r rhain yn diwygio adrannau 83 ac 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 ac adran 140 o Ddeddf Addysg 2002.