(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio amryw Reoliadau a wnaed o dan Rannau 4 a 5 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015 i’w gwneud yn eglur nad yw dyletswydd yr awdurdod lleol i ddarparu dewis o lety yn gymwys pan angen byrdymor sydd ar berson am y ddarpariaeth o lety. Yna mewnosodir diffiniad o “byrdymor” yn rheoliad 1(3), sef cyfnod nad yw’n hwy nag 8 wythnos.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015. Mae paragraffau (b) ac (h) yn diwygio uchafswm y ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl. Mae hwn wedi ei ddiwygio o £60 i £70. Mae paragraff (d) yn cywiro gwall drafftio i’w gwneud yn eglur bod rheoliad 9 yn gymwys mewn perthynas â’r ffioedd am ofal a chymorth preswyl. Mae paragraff (e) yn diwygio rheoliad 11 i sefydlu dau derfyn cyfalaf gwahanol – un a fydd yn gymwys i godi ffioedd am ofal preswyl a fydd yn cynyddu i £30,000 ac un a fydd yn gymwys i godi ffioedd am ofal amhreswyl a fydd yn aros ar y lefel bresennol o £24,000. Mae paragraff (j) yn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 26 i adlewyrchu’r ffaith bod dau derfyn cyfalaf. Mae paragraffau (f) a (k) yn diwygio rheoliadau 13 ac 28 yn y drefn honno i gynyddu’r isafswm incwm wythnosol pan fo llety yn cael ei ddarparu i berson mewn cartref gofal o £26.50 i £27.50. Mae paragraff (g) yn diwygio rheoliad 15 i’w gwneud yn eglur bod rhaid, yn dilyn asesiad ariannol diwygiedig, ddyroddi datganiad pellach i’r sawl sy’n cael gofal a bod y ffi ddiwygiedig yn dod yn daladwy (ac y caniateir ei hôl-ddyddio) o’r dyddiad pan gododd yr amgylchiad a arweiniodd at y dyfarniad diwygiedig. Mae paragraff (l) yn gwneud yr un diwygiad i reoliad 30 mewn cysylltiad â dyfarniadau diwygiedig o daliadau uniongyrchol.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015. Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r symiau sydd i gael eu diystyru pan fo awdurdod lleol yn cyfrifo incwm at ddibenion y Ddeddf. Mae paragraffau (a) a (b) yn rhoi paragraff 16 newydd yn lle’r hen un fel y bydd diystyru llwyr yn gymwys i godi ffioedd am ofal a chymorth preswyl ac amhreswyl mewn cysylltiad â symiau a geir o dan y Pensiwn Anabledd Rhyfel.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.