- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
26.—(1) Pan fo—
(a)darparwr cofrestredig sy’n rheoli’r practis deintyddol preifat; neu
(b)rheolwr cofrestredig,
yn bwriadu bod yn absennol o’r practis deintyddol preifat am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, rhaid i’r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru.
(2) Ac eithrio yn achos argyfwng, rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn dechrau’r absenoldeb arfaethedig, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno â’r awdurdod cofrestru a rhaid i’r hysbysiad bennu, mewn cysylltiad â’r absenoldeb—
(a)ei hyd neu ei hyd disgwyliedig;
(b)y rheswm drosto;
(c)y trefniadau sydd wedi eu gwneud ar gyfer rhedeg y practis deintyddol preifat;
(d)enw, cyfeiriad a chymwysterau’r person a fydd yn gyfrifol am y practis deintyddol preifat yn ystod yr absenoldeb hwnnw; ac
(e)y trefniadau sydd wedi, neu y bwriedir, eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli’r practis deintyddol preifat yn ystod yr absenoldeb hwnnw, gan gynnwys erbyn pa ddyddiad y bwriedir gwneud y penodiad hwnnw.
(3) Pan fo’r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i’r person cofrestredig roi hysbysiad o’r absenoldeb o fewn un wythnos i’r argyfwng ddigwydd, gan bennu’r materion a nodir yn is-baragraffau (a) i (e) o baragraff (2).
(4) Pan fo—
(a)darparwr cofrestredig sy’n rheoli’r practis deintyddol preifat; neu
(b)rheolwr cofrestredig,
wedi bod yn absennol o’r practis deintyddol preifat am gyfnod parhaus o 90 o ddiwrnodau neu ragor, ac nad yw hysbysiad wedi cael ei roi i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru am yr absenoldeb, rhaid i’r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i’r swyddfa honno, cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny, gan bennu’r materion a nodir yn is-baragraffau (a) i (e) o baragraff (2).
(5) Rhaid i’r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru bod person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (4) wedi dychwelyd i’r gwaith, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r person hwnnw yn dychwelyd i’r gwaith.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: