NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ac maent yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli’r ddarpariaeth o wasanaethau deintyddiaeth preifat gan ddeintydd, neu wasanaethau proffesiynol perthnasol gan broffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008 a oedd yn rheoleiddio deintyddion unigol ac maent yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phractisau deintyddol preifat y mae’n ofynnol iddynt gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer cofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau gan yr awdurdod cofrestru (Gweinidogion Cymru). Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hefyd yn darparu i Weinidogion Cymru bwerau i wneud rheoliadau sy’n llywodraethu’r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg.

Mae adran 42 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth, drwy reoliadau, ar gyfer cymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf (gydag unrhyw addasiadau a bennir) mewn cysylltiad â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli’r ddarpariaeth o wasanaethau nad ydynt wedi eu pennu yn y Ddeddf honno.

Mae Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017 wedi eu gwneud o dan y pŵer yn adran 42 o’r Ddeddf i ddarparu bod y pwerau i wneud rheoliadau yn Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys, gyda’r addasiadau a nodir yn y Rheoliadau hynny, mewn cysylltiad â phractisau deintyddol preifat.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn darparu bod rhaid i bob practis deintyddol preifat gael datganiad o ddiben, sy’n cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn, a thaflen gwybodaeth i gleifion, a bod rhaid adolygu’r ddau yn gyson (rheoliadau 5 i 7). Yn rhinwedd rheoliad 5(3) rhaid rhedeg y practis deintyddol preifat mewn modd sy’n gyson â’i ddatganiad o ddiben.

Mae rheoliad 8 yn nodi’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid eu llunio a’u gweithredu mewn perthynas â’r practis deintyddol preifat.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd y personau sy’n cynnal ac yn rheoli’r practis deintyddol preifat ac yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â’r materion a ragnodir yn Rhan 1 o Atodlen 3. Pan fo’r darparwr yn bartneriaeth, rhaid i’r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas â phob un o’r partneriaid. Pan fo’r darparwr yn sefydliad, rhaid iddo enwebu unigolyn cyfrifol y mae rhaid i’r wybodaeth hon fod ar gael mewn cysylltiad ag ef (rheoliad 9). Mae rheoliadau 10 ac 11 yn rhagnodi’r amgylchiadau pan fo rhaid i reolwr gael ei benodi ar gyfer y practis deintyddol preifat a’r gofynion addasrwydd ar gyfer y rheolwr. Mae rheoliad 12 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â chynnal a rheoli’r practis deintyddol preifat a’r angen am hyfforddiant priodol.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth benodol ynghylch rhedeg practisau deintyddol preifat, yn benodol ynghylch ansawdd y gwasanaethau sydd i gael eu darparu mewn, neu at ddibenion, practis deintyddol preifat, gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag ansawdd y driniaeth, preifatrwydd ac urddas y cleifion, staffio’r practis deintyddol preifat, addasrwydd y gweithwyr, diogelu cleifion, cwynion, ffurflenni blynyddol a chadw cofnodion. Gwneir darpariaeth hefyd ynghylch addasrwydd mangreoedd a’r rhagofalon tân sydd i gael eu cymryd. Mae’n ofynnol i’r darparwr cofrestredig ymweld â’r practis deintyddol preifat fel y’i rhagnodir (rheoliad 23) ac mae rheoliad 24 yn gosod gofynion sy’n ymwneud â hyfywedd ariannol y practis deintyddol preifat.

Mae rheoliadau 25 i 30 yn delio â rhoi hysbysiadau i’r awdurdod cofrestru pan fo digwyddiadau penodol yn digwydd megis marwolaeth claf neu anaf difrifol i glaf; absenoldeb y rheolwr; pan fo newidiadau penodol yn digwydd, er enghraifft, newid y person cofrestredig a newidiadau eraill i bersonél neu newidiadau sylweddol i’r fangre; pan fo’r person cofrestredig neu’r unigolyn cyfrifol wedi ei euogfarnu o unrhyw drosedd; pan fo datodwyr ac eraill wedi eu penodi; a phan fo’r person cofrestredig yn marw.

Mae Rhan 4 yn nodi’r gofynion ychwanegol mewn perthynas â dadebru cleifion a’r defnydd o gynhyrchion laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4.

Mae Rhan 5 yn delio â materion amrywiol. Yn benodol, mae rheoliad 36 yn darparu y bydd torri rheoliadau 5 i 32 yn drosedd ar ran y person cofrestredig.

Mae rheoliad 38 yn diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 drwy ddileu o’r rhestr o “gwasanaethau rhestredig” y defnydd o gynhyrchion laser Dosbarth 4 gan neu o dan oruchwyliaeth deintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol mewn practis deintyddol preifat. Mae’r diwygiad hwn yn dileu’r gofyniad i gofrestru fel ysbyty annibynnol pan fo laser Dosbarth 4 yn cael ei ddefnyddio gan neu o dan oruchwyliaeth deintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol mewn practis deintyddol preifat i ddarparu triniaeth ddeintyddol.

Mae rheoliad 39 yn cymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf (i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chymhwyso a’i haddasu) i bersonau sy’n cynnal ac yn rheoli practisau deintyddol preifat gyda’r addasiadau a nodir yn Atodlen 4.

Mae rheoliad 40 yn darparu darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â phersonau a oedd yn cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym. Mae rheoliad 41 yn dirymu Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”) a Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) (Diwygio) 2011. Mae rheoliad 42 yn darparu darpariaethau arbed mewn perthynas â deintyddion sydd wedi eu cofrestru o dan Reoliadau 2008 sydd wedi eu dirymu o dan y Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.