xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliadau 4 ac 8
1. Tystysgrif geni’r person cyfrifol.
2. Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall sy’n ymwneud â chymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person cyfrifol, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat.
3. Datganiad gan y person cyfrifol ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.
4. Mewn perthynas â’r person cyfrifol, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(1) sy’n cynnwys, fel y bo’n gymwys, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (fel y diffinnir “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (fel y diffinnir “suitability information relating to children” yn adran 113BA o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy, a bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â’r wybodaeth addasrwydd.
5. Pan fo’r ceisydd yn gorff corfforaethol, copi o bob un o’i ddau adroddiad blynyddol diwethaf.
6. Pan fo’r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r cwmni daliannol a dau adroddiad blynyddol diwethaf (os oes rhai) y cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol hwnnw.
7. Cyfrifon blynyddol diwethaf (os oes rhai) y practis deintyddol preifat.
8. Tystysgrif yswiriant ar gyfer y ceisydd mewn cysylltiad ag atebolrwydd a all ddod i ran y ceisydd mewn perthynas â’r practis deintyddol preifat mewn cysylltiad â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.
9.—(1) Datganiad sy’n cadarnhau—
(a)bod y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) wedi eu dyroddi—
(i)yn achos unrhyw geisydd, i bob person, ac eithrio’r ceisydd, sy’n gweithio at ddibenion y practis deintyddol preifat neu y bwriedir iddo weithio at ddibenion y practis deintyddol preifat; a
(ii)pan fo’r ceisydd yn sefydliad, i’r unigolyn cyfrifol; a
(b)y bydd y ceisydd yn trefnu bod y dogfennau ar gael i’r awdurdod cofrestru edrych arnynt os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod cofrestru.
(2) Mae’r dogfennau a ganlyn wedi eu pennu—
(a)pan fo’r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A(a) o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy’n cynnwys, fel y bo’n gymwys, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (fel y diffinnir “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (fel y diffinnir “suitability information relating to children” yn adran 113BA o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy, a bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â’r wybodaeth addasrwydd; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â hi.