YR ATODLENNI

ATODLEN 1Gwybodaeth sydd i gael ei Chyflenwi ar Gais i Gofrestru fel Person sy’n Cynnal Practis Deintyddol Preifat

RHAN 3

Gwybodaeth bellach am staff

20.  Mewn cysylltiad ag unrhyw berson, ac eithrio’r ceisydd, sy’n gweithio yn y practis deintyddol preifat neu y bwriedir iddo weithio yno—

(a)os yw’n berthynas i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais mewn cysylltiad â’r practis deintyddol preifat, ei berthynas â’r person hwnnw;

(b)gwybodaeth ynghylch cymwysterau’r person, ei brofiad a’i sgiliau i’r graddau y maent yn berthnasol i’r gwaith y mae’r person i’w gyflawni;

(c)datganiad gan y ceisydd ei fod wedi ei fodloni o ran dilysrwydd y cymwysterau, a’i fod wedi gwirio’r profiad a’r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c);

(d)datganiad ynghylch—

(i)addasrwydd cymwysterau’r person ar gyfer y gwaith y mae’r person i’w gyflawni;

(ii)oes gan y person y sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y gwaith hwnnw;

(iii)addasrwydd y person i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau ac i gael cyswllt rheolaidd â hwy;

(e)datganiad gan y person ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;

(f)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau a yw wedi ei fodloni ynghylch hunaniaeth y person, y dull a ddefnyddiodd y ceisydd i’w fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, ac a yw’r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni’r person;

(g)cadarnhad gan y ceisydd fod ganddo ffotograff diweddar o’r person;

(h)datganiad gan y ceisydd ei fod wedi cael dau eirda sy’n ymwneud â’r person a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny;

(i)manylion am unrhyw droseddau y mae’r person wedi ei euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau sydd wedi eu disbyddu o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975, ac, mewn perthynas â phob trosedd o’r fath, ddatganiad gan y person—

(i)ynghylch a yw ei drosedd yn berthnasol yn ei farn ef i’w addasrwydd i ofalu am unrhyw berson, i hyfforddi unrhyw berson, i oruchwylio unrhyw berson neu i fod â gofal ar ei ben ei hun am unrhyw berson ac, os felly,

(ii)ynghylch pam y mae’n ystyried ei fod yn addas i wneud y gwaith y mae i gael ei gyflogi i’w gyflawni;

(j)manylion am unrhyw droseddau y mae wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad â hwy, ac a gyfaddefodd ar yr adeg y rhoddwyd y rhybuddiad;

(k)cadarnhad gan y ceisydd bod y person wedi cael archwiliadau iechyd safonol ac archwiliadau iechyd ychwanegol pan fydd y person yn cynnal triniaethau a all arwain at gysylltiad;

(l)os yw’r person yn ddeintydd neu’n broffesiynolyn gofal deintyddol, datganiad—

(i)bod y person wedi ei gofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol; a

(ii)bod gan y person dystysgrif sicrwydd indemniad sy’n darparu sicrwydd i’r person mewn cysylltiad ag atebolrwyddau a all godi wrth gyflawni gwasanaethau’r person.