(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf) ac maent yn gymwys i Gymru. Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer cofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau gan yr awdurdod cofrestru (Gweinidogion Cymru). Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hefyd yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n llywodraethu’r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg.
Mae adran 42 o’r Ddeddf yn darparu, drwy reoliadau, ar gyfer cymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf (gydag unrhyw addasiadau a bennir) mewn cysylltiad â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli’r ddarpariaeth o wasanaethau nas pennir yn y Ddeddf honno.
Gwnaed Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017 o dan y pŵer yn adran 42 o’r Ddeddf i ddarparu bod y pwerau i wneud rheoliadau yn Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys, gyda’r addasiadau a nodir yn y Rheoliadau hynny, mewn cysylltiad â phractisau deintyddol preifat.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chofrestru practisau deintyddol preifat.
O dan Ran 2 o’r Ddeddf, mae gan Weinidogion Cymru y swyddogaeth o ganiatáu neu wrthod ceisiadau i gofrestru o dan y Ddeddf. Cânt ganiatáu cofrestru yn ddarostyngedig i amodau a chânt amrywio neu ddileu unrhyw amod neu osod amod ychwanegol. Maent hefyd yn meddu ar y pŵer i ganslo cofrestriad.
Mae rheoliadau 4 i 15 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf.
Mae rheoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn, ac Atodlenni 1 i 3 iddynt, yn pennu’r wybodaeth a’r dogfennau sydd i gael eu darparu gan geisydd sy’n gwneud cais i gofrestru.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r person cyfrifol fynd i gyfweliad. Mae rheoliadau 7 ac 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd roi hysbysiad o newidiadau penodol sy’n digwydd, neu fanylion staff a gymerir ymlaen, ar ôl gwneud y cais i gofrestru a chyn iddo gael ei benderfynu.
Mae rheoliad 9 yn pennu’r manylion y mae unrhyw dystysgrif gofrestru i’w cynnwys.
Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â sefydliad ddychwelyd y dystysgrif i’r awdurdod cofrestru os yw’r cofrestriad yn cael ei ganslo. Mae methu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw yn drosedd o dan reoliad 11.
Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chais gan y person cofrestredig i wneud cais i amrywio neu ddileu amod mewn perthynas â’i gofrestriad.
Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i’r person cofrestredig roi gwybod i’r awdurdod cofrestru am yr amgylchiadau perthnasol os yw’n ymddangos bod y practis deintyddol preifat yn debygol o beidio â bod yn hyfyw yn ariannol.
Mae rheoliad 14 yn pennu sail y caiff awdurdod cofrestru ganslo cofrestriad person arni. Mae seiliau eraill y caniateir canslo cofrestriad arnynt wedi eu pennu gan adran 14 o’r Ddeddf.
Mae rheoliad 15 yn darparu i’r person cofrestredig wneud cais i’w gofrestriad gael ei ganslo.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.