xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 1326 (Cy. 299) (C. 121)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 5, Arbedion, Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2017

Gwnaed

21 Rhagfyr 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 188(1) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 5, Arbedion, Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2017.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “cyfnod trosiannol” (“transition period”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(2);

mae i “darpariaethau Rhan 2” (“the Part 2 provisions”) yr ystyr a roddir yn erthygl 5(4);

ystyr “darparwr DSG” (“CSA provider”) yw person sydd, yn union cyn y prif ddiwrnod penodedig, wedi ei gofrestru â Gweinidogion Cymru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel person sy’n cynnal sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

mae i “gwasanaeth trosiannol” (“transition service”) yr ystyr a roddir yn erthygl 3;

mae i “prif ddiwrnod penodedig” (“principal appointed day”) yr ystyr a roddir yn erthygl 2(4);

ystyr “sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol” (“relevant establishment or agency”) yw sefydliad neu asiantaeth o un o’r disgrifiadau a ganlyn—

(a)

cartref gofal,

(b)

cartref plant,

(c)

cartref plant sy’n darparu llety at ddiben cyfyngu ar ryddid,

(d)

canolfan breswyl i deuluoedd, neu

(e)

asiantaeth gofal cartref.

(3Yn y Gorchymyn hwn mae i’r termau “cartref gofal”, “cartref plant sy’n darparu llety at ddiben cyfyngu ar ryddid”, “canolfan breswyl i deuluoedd” ac “asiantaeth gofal cartref” yr ystyron a roddir i “children’s home”, “children’s home providing accommodation for the purpose of restricting liberty”, “residential family centre” a “domiciliary care agency” yn adrannau 1 a 4 o Ddeddf 2000 ac mae i’r term “cartref gofal” yr ystyr a roddir i “care home” yn adran 3 o Ddeddf 2000 ac eithrio pan fydd yn ymddangos yn y term “gwasanaeth cartref gofal” sydd â’r ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Diwrnodau penodedig ar gyfer cychwyn darpariaeth sy’n ymwneud â gwasanaethau rheoleiddiedig

2.—(1Y diwrnod penodedig i adran 6 o’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau a nodir ym mharagraff (2) yw 1 Chwefror 2018.

(2Mae adran 6 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn i’r graddau y mae’n gymwys i berson sy’n dymuno darparu un o’r gwasanaethau a bennir ym mharagraffau (a) i (c) ac (h) o adran 2(1) o’r Ddeddf.

(3Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 2 Ebrill 2018—

(a)adran 1,

(b)adran 2, ac eithrio paragraffau (d) i (g) o isadran (1), a pharagraffau 1 i 3 ac 8 o Atodlen 1,

(c)adrannau 3 i 5,

(d)adrannau 7 i 31,

(e)penodau 3, 4 a 5 o Ran 1,

(f)adran 58,

(g)pennod 8 o Ran 1,

(h)adran 185 a Rhan 1 o Atodlen 3 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Cyfeirir at 2 Ebrill 2018 yn y Gorchymyn hwn fel y prif ddiwrnod penodedig.

Ystyr gwasanaeth trosiannol

3.  Ystyr “gwasanaeth trosiannol” yw sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef neu â hi o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn union cyn y prif ddiwrnod penodedig ac—

(a)yn achos cartref gofal neu gartref plant, mae’r cartref wedi ei bennu mewn cais a wneir cyn y dyddiad perthnasol o dan adran 6 o’r Ddeddf fel man lle y mae gwasanaeth cartref gofal i’w ddarparu;

(b)yn achos cartref plant sy’n darparu llety at ddiben cyfyngu ar ryddid, mae’r cartref wedi ei bennu mewn cais a wneir cyn y dyddiad perthnasol o dan adran 6 o’r Ddeddf fel man lle y mae gwasanaeth llety diogel i’w ddarparu;

(c)yn achos canolfan breswyl i deuluoedd, mae’r ganolfan wedi ei phennu mewn cais a wneir cyn y dyddiad perthnasol o dan adran 6 o’r Ddeddf fel man lle y mae gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd i’w ddarparu;

(d)yn achos asiantaeth gofal cartref, mae’r ardal y mae’r asiantaeth yn darparu gwasanaethau ynddi wedi ei phennu mewn cais a wneir cyn y dyddiad perthnasol o dan adran 6 o’r Ddeddf fel man y mae gwasanaeth cymorth cartref i’w ddarparu mewn perthynas ag ef.

Datgymhwysiad trosiannol o adran 5 o’r Ddeddf

4.—(1Nid yw adran 5 o’r Ddeddf (gofyniad i gofrestru) yn gymwys i ddarparwr DSG yn ystod y cyfnod trosiannol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), y “cyfnod trosiannol” ar gyfer darparwr DSG yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r prif ddiwrnod penodedig ac sy’n gorffen ar ba ddyddiad bynnag yw’r cynharaf o—

(a)y dyddiad perthnasol fel y’i pennir ym mharagraff (3); neu

(b)y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar gais i gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth trosiannol.

(3Yn ddarostyngedig i erthygl 5, y dyddiad perthnasol yw—

(a)30 Mehefin 2018 ar gyfer darparwr DSG sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â chartref gofal, cartref plant, cartref plant sy’n darparu llety at ddiben cyfyngu ar ryddid, neu ganolfan preswyl i deuluoedd;

(b)31 Awst 2018 ar gyfer darparwr DSG sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag asiantaeth gofal cartref ond nad yw wedi ei gofrestru hefyd mewn cysylltiad â sefydliad o fath a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(4Pan fo sefydliad neu asiantaeth y mae darparwr DSG wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef neu â hi yn dod yn wasanaeth trosiannol oherwydd ei fod wedi ei bennu neu ei bod wedi ei phennu mewn cais i gofrestru o dan adran 6 o’r Ddeddf er mwyn dod â’r sefydliad neu’r asiantaeth o fewn y diffiniad o wasanaeth trosiannol yn erthygl 3, mae’r cyfnod trosiannol y cyfeirir ato ym mharagraff (2) wedi ei estyn i’r dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar y cais.

(5Mae cyfeiriad yn yr erthygl hon at amser pan benderfynir yn derfynol ar gais o dan adran 6 o’r Ddeddf yn cynnwys—

(a)terfyn unrhyw amser a ganiateir o dan adran 18(2) o’r Ddeddf ar gyfer cyflwyno sylwadau yn erbyn hysbysiad o gynnig;

(b)terfyn unrhyw amser a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan adran 26(1) o’r Ddeddf yn erbyn hysbysiad a ddyroddir o dan adran 19(4) o’r Ddeddf;

(c)penderfyniad ar unrhyw apêl o’r fath neu roi’r gorau i unrhyw apêl o’r fath.

Gohirio dyddiad perthnasol ar gyfer sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol yn ddarostyngedig i broses ganslo

5.—(1Pan fo sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol, ar y dyddiad perthnasol a bennir yn erthygl 4(3), yn ddarostyngedig i broses ganslo, caiff y dyddiad perthnasol ei ohirio tan y dyddiad sydd 6 wythnos ar ôl y dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar y broses ganslo.

(2Mae sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol yn ddarostyngedig i broses ganslo os yw hysbysiad o gynnig i ganslo o dan adran 17(4)(a) o Ddeddf 2000 wedi ei roi i’r darparwr DSG cyn y dyddiad perthnasol a bennir yn erthygl 4(3) ac na phenderfynwyd yn derfynol ar y broses erbyn y dyddiad hwnnw.

(3Penderfynir yn derfynol ar broses ganslo—

(a)pan benderfynir ar unrhyw apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn y canslo neu pan roddir y gorau i unrhyw apêl o’r fath;

(b)pan fo hysbysiad o benderfyniad o dan adran 19(3) o Ddeddf 2000 wedi ei gyflwyno a bod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y caniateir i apêl gael ei gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ynddo wedi dod i ben; neu

(c)pan hysbysir y darparwr DSG nad yw’r hysbysiad o gynnig wedi ei gadarnhau neu fod yr hysbysiad o gynnig wedi ei dynnu’n ôl.

Arbedion yn ystod y cyfnod trosiannol

6.—(1Yn ystod y cyfnod trosiannol, bydd cofrestriad darparwr DSG o dan Ddeddf 2000 yn parhau ac, er gwaethaf unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2000 a wneir gan Ran 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf a fyddai fel arall yn eithrio cais y darparwr, bydd darpariaethau Rhan 2 yn parhau i fod yn gymwys i—

(a)darparwr DSG,

(b)Gweinidogion Cymru,

(c)y Tribiwnlys Haen Gyntaf,

(d)Llys Ynadon,

fel pe na bai’r diwygiadau canlyniadol hynny wedi cael eu gwneud.

(2Mae adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978(3) (arbedion cyffredinol) yn gymwys mewn cysylltiad â datgymhwyso’r darpariaethau yn Neddf 2000 i sefydliadau neu asiantaethau perthnasol fel y byddai pe bai Rhan 2 o Ddeddf 2000 wedi ei diddymu.

(3Pan fo cofrestriad darparwr DSG yn ddarostyngedig i amodau yn union cyn y prif ddiwrnod penodedig, bydd yr amodau hynny yn gymwys i’r cofrestriad yn ystod y cyfnod trosiannol.

(4Darpariaethau Rhan 2 yw—

(a)adrannau 14, 14A, 15, 17(4) i (6), 18, 19(3) i (6), 20A, 20B, 21, 22B, 23(1), 23(4), 24, 24A, 25(2), 26, 28, 29, 30, 30A, 31, 32, 36, 37 o Ddeddf 2000;

(b)unrhyw un neu ragor o’r rheoliadau a ganlyn sy’n gymwys i’r sefydliad neu’r asiantaeth y mae cofrestriad y darparwr DSG wedi ei gynnal mewn cysylltiad ag ef neu â hi—

(i)Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(4),

(ii)Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(5),

(iii)Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(6),

(iv)Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003(7),

(v)Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(8),

(vi)rheoliad 9(1) a rheoliad 12 o Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015(9),

(vii)Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Hysbysu) (Cymru) 2011(10);

(c)unrhyw un neu ragor o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a wneir yn unol ag adran 23(1) o Ddeddf 2000 sy’n gymwys i’r sefydliad neu’r asiantaeth o dan sylw.

(5Mae cyfeiriad at y rheoliadau ym mharagraff (4)(b) yn gyfeiriad at y rheoliadau fel y’u diwygiwyd yn union cyn y prif ddiwrnod penodedig(11).

Addasiad darfodol i gyfeiriadau at “gwasanaeth lleoli oedolion” yn y diffiniadau o “gwasanaeth cartref gofal” a “gwasanaeth cymorth cartref”

7.  Hyd nes y daw adran 2(1)(f) o’r Ddeddf i rym—

(a)mae paragraff 1(2)(e) o Atodlen 1 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel pe bai, ar gyfer yr ymadrodd “sy’n darparu llety ar gyfer oedolyn a drefnir fel rhan o wasanaeth lleoli oedolion”, y canlynol wedi ei roi yn ei le “lle y darperir llety gan ofalwr lleoli oedolion a gymeradwywyd gan ddarparwr cynllun lleoli oedolion sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000”;

(b)mae paragraff 8(2)(b)(i) o Atodlen 1 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel pe bai, ar gyfer yr ymadrodd “lety a drefnir fel rhan o wasanaeth lleoli oedolion”, y canlynol wedi ei roi yn ei le “lety a ddarperir gan ofalwr lleoli oedolion a gymeradwywyd gan ddarparwr cynllun lleoli oedolion sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000”.

Addasiad darfodol i adrannau 189 i 191 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

8.—(1Hyd nes y daw paragraffau (d) i (g) o adran 2(1) o’r Ddeddf i rym, ac o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2), mae adrannau 189 i 191 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(12) i’w darllen fel pe na bai’r diwygiadau i’r adrannau hynny a wnaed gan baragraffau 33 i 35 o Atodlen 3 i’r Ddeddf wedi cael eu gwneud.

(2Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod y methiant busnes yn ymwneud â gwasanaeth o fath a bennir ym mharagraffau (d) i (g) o adran 2(1) o’r Ddeddf a bod y gwasanaeth o fath sy’n parhau i gael ei reoleiddio fel sefydliad neu asiantaeth o dan Ran 2 o Ddeddf 2000.

Addasiad trosiannol i’r Ddeddf mewn perthynas â darparwyr DSG y mae rheoleiddio yn parhau ar eu cyfer o dan Ddeddf 2000

9.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn defnyddio mesurau gorfodi yn erbyn darparwr DSG mewn cysylltiad â gwasanaeth trosiannol o dan Ddeddf 2000 yn ystod y cyfnod trosiannol, mae gofynion adran 7(1) a (2) o’r Ddeddf mewn perthynas â’r cais wedi eu haddasu fel nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod y cais mewn cysylltiad â’r man sy’n ddarostyngedig i’r mesurau gorfodi hyd nes bod unrhyw broses sy’n ymwneud â’r mesur gorfodi ei chwblhau.

(2At ddibenion paragraff (1) mae cwblhau mesur gorfodi yn cynnwys—

(a)terfyn unrhyw amser a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan adran 17 o Ddeddf 2000;

(b)terfyn unrhyw amser a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan adran 21 o Ddeddf 2000; neu

(c)y cyfnod hyd nes y penderfynir ar unrhyw apêl o’r fath neu y rhoddir y gorau iddi.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “mesurau gorfodi” yw—

(a)dyroddi hysbysiad o gynnig o dan adran 17(4)(a) o Ddeddf 2000 neu hysbysiad o benderfyniad yn dilyn cynnig o dan yr adran honno;

(b)atal dros dro o dan adran 14A o Ddeddf 2000;

(c)cais i ganslo ar frys o dan adran 20A o Ddeddf 2000.

Darpariaeth ar gyfer ceisiadau o dan Ddeddf 2000 sydd wrthi’n cael eu penderfynu ar y prif ddiwrnod penodedig

10.  Pan na fo Gweinidogion Cymru, ar y prif ddiwrnod penodedig, wedi cwblhau’r penderfyniad ar gais i gofrestru o dan adran 12 o Ddeddf 2000 fel darparwr sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol a chafwyd y cais cyn 1 Chwefror 2018, cânt drin y cais fel pe bai’n un a wnaed o dan adran 6 o’r Ddeddf a chânt ofyn am unrhyw wybodaeth bellach sy’n ofynnol gan adran 6, neu gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017(13), er mwyn eu galluogi i benderfynu ar y cais.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â cheisiadau gan ddarparwyr DSG i amrywio neu ddileu amodau cofrestru yn y cyfnod trosiannol

11.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo darparwyr DSG, yn ystod y cyfnod trosiannol, yn gwneud cais o dan adran 15(1)(a) o Ddeddf 2000 i amrywio neu ddileu amod cofrestru ar gyfer sefydliad neu asiantaeth sy’n wasanaeth trosiannol.

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, er gwaethaf gofynion adran 15(4) (gofyniad i hysbysu ceisydd am benderfyniad i ganiatáu cais) ac adran 17(5) (gofyniad i hysbysu ceisydd am benderfyniad i wrthod cais) o Ddeddf 2000, nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais o dan adran 15(1)(a) o Ddeddf 2000 a chânt yn lle hynny ei ystyried fel rhan o gais y darparwr DSG o dan adran 6 o’r Ddeddf.

Darpariaeth ynghylch rheolwyr sy’n ddarostyngedig i hysbysiad o benderfyniad i ganslo a ddyroddir cyn y prif ddiwrnod penodedig

12.  Pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi hysbysiad o benderfyniad i ganslo cofrestriad rheolwr sefydliad neu asiantaeth o dan adran 19(3) o Ddeddf 2000 a bod y rheolwr, cyn y prif ddiwrnod penodedig, wedi dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad o dan adran 21 (apelio i’r Tribiwnlys) o Ddeddf 2000, bydd cofrestriad y rheolwr yn parhau, at ddibenion yr apêl, hyd nes y penderfynir ar yr apêl neu y rhoddir y gorau iddi.

Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â marwolaeth darparwr gwasanaeth

13.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 (sefydliadau ac asiantaethau) mewn cysylltiad â chynnal sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol wedi marw cyn y prif ddiwrnod penodedig;

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu hysbysu yn ysgrifenedig am y farwolaeth honno; ac

(c)pan fo cynrychiolydd personol, yn union cyn y prif ddiwrnod penodedig, yn cynnal y sefydliad neu’r asiantaeth heb fod wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r sefydliad neu’r asiantaeth yn unol â—

(i)rheoliad 43(3) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002;

(ii)rheoliad 39(3) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002;

(iii)rheoliad 30(3) o Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003;

(iv)rheoliad 29(3) o Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mae hawlogaeth gan y cynrychiolydd personol i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig heb fod wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef i’r graddau bod hawlogaeth gan y darparwr cofrestredig, yn union cyn ei farwolaeth, i gynnal y gweithgaredd hwnnw mewn sefydliad cofrestredig neu asiantaeth gofrestredig yn rhinwedd ei gofrestriad o dan Ran 2 o Ddeddf 2000; a

(b)mae gan y person hawlogaeth o’r fath am y cyfnod a bennir ym mharagraff (3).

(3Y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo’r cynrychiolydd personol, cyn y prif ddiwrnod penodedig, wedi cynnal y sefydliad neu’r asiantaeth am lai nag 28 o ddiwrnodau ac nad oes unrhyw estyniad wedi ei ganiatáu i’r cyfnod hwnnw o dan y rheoliadau a bennir ym mharagraff (1)(c), weddill y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau o’r dyddiad pan gymerodd y cynrychiolydd drosodd y gwaith o gynnal y sefydliad neu’r asiantaeth; neu

(b)pan fo’r cynrychiolydd personol, cyn y prif ddiwrnod penodedig, wedi cael estyniad o dan y rheoliadau a bennir ym mharagraff (1)(c), y cyfnod sy’n gorffen ar y dyddiad y daw’r estyniad hwnnw i ben.

(4Caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(a) am gyfnod pellach o’r fath, nad yw’n hwy na blwyddyn, a rhaid iddynt hysbysu’r cynrychiolydd personol am unrhyw benderfyniad o’r fath yn ysgrifenedig.

(5Rhaid i gynrychiolydd personol y darparwr cofrestredig ymadawedig sicrhau bod person sydd wedi ei benodi i fod â gofal llawnamser o ddydd i ddydd am ddarparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig yn ystod unrhyw gyfnod y bydd yn cynnal y gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, yn unol â’r erthygl hon, heb fod wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.

Datgymhwysiad trosiannol o adran 5 o’r Ddeddf ar gyfer darparwyr presennol y tu allan i Gymru sy’n gwneud cais i gofrestru o dan y Ddeddf

14.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i berson sydd, yn union cyn 1 Chwefror 2018, yn darparu gwasanaeth yng Nghymru o fath a fyddai, ar ôl y prif ddiwrnod penodedig, yn ei gwneud yn ofynnol i’r person fod wedi ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth cymorth cartref ond nad yw wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel person sy’n cynnal asiantaeth gofal cartref dim ond oherwydd nad yw’r ymgymeriad sy’n darparu’r gwasanaethau, neu’n trefnu bod y gwasanaethau yn cael eu darparu, yng Nghymru.

(2Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn gwneud cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth cymorth cartref o dan adran 6 o’r Ddeddf cyn 2 Ebrill 2018, nid yw adran 5 o’r Ddeddf yn gymwys i’r person hwnnw o ran y ddarpariaeth o wasanaeth cymorth cartref ar gyfer y mannau a bennir yn y cais hyd nes y penderfynir yn derfynol ar y cais.

(3Mae i’r cyfeiriad ym mharagraff (2) at benderfynu’n derfynol ar gais yr un ystyr ag yn erthygl 4(4) a (5).

Cyfnod trosiannol ar gyfer asiantaethau nyrsys y gwneir cais mewn cysylltiad â hwy i gofrestru fel gwasanaeth cymorth cartref

15.  Pan fo person wedi ei gofrestru fel person sy’n cynnal asiantaeth nyrsys o dan Ddeddf 2000 yn union cyn y prif ddiwrnod penodedig a bod yr ardal y mae’r asiantaeth yn darparu gwasanaethau ynddi wedi ei phennu mewn cais a wneir cyn y prif ddiwrnod penodedig o dan adran 6 o’r Ddeddf fel man y mae gwasanaeth cymorth cartref i’w ddarparu mewn perthynas ag ef yna mae’r person i’w drin fel pe bai’r person yn ddarparwr DSG fel—

(a)bod cyfnod trosiannol o’r prif ddiwrnod penodedig hyd nes y diwrnod pan benderfynir yn derfynol ar y cais o fewn ystyr erthygl 4(5);

(b)bod erthygl 4(1) yn gymwys yn ystod y cyfnod trosiannol;

(c)bod erthygl 5 yn gymwys yn ystod y cyfnod trosiannol;

(d)bod Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003(14) yn parhau i fod yn gymwys i’r person yn ystod y cyfnod trosiannol.

Huw Irranca-Davies

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

21 Rhagfyr 2017

Erthygl 2(3)(h)

YR ATODLEN

Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ran 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf yn dod i rym yn unol ag erthygl 2(3)—

(a)paragraffau 1 i 3,

(b)paragraff 4(a) a (b),

(c)paragraff 4(d),

(d)paragraff 4(g) i (i),

(e)paragraffau 6 i 11,

(f)paragraff 16,

(g)paragraffau 25 i 27,

(h)paragraff 28(a),

(i)paragraff 29,

(j)paragraffau 31 i 36.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae erthygl 2 a’r Atodlen yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) sy’n ymwneud â rheoleiddio darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol penodol.

Mae adran 6 o’r Ddeddf yn cael ei dwyn i rym ar 1 Chwefror 2018 er mwyn caniatáu i geisiadau i gofrestru gael eu gwneud cyn y prif ddyddiad dod i rym ar gyfer Rhan 1 o’r Ddeddf. 2 Ebrill 2018 yw’r dyddiad dod i rym ar gyfer y darpariaethau yn Rhan 1 fel y maent yn gymwys i bersonau sy’n darparu gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cartref. Mae erthygl 2 hefyd yn cychwyn diwygiadau canlyniadol perthnasol yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf. Cyfeirir at 2 Ebrill 2018 yn y Gorchymyn fel “y prif ddiwrnod penodedig”.

Mae erthyglau 3 i 15 yn gwneud arbedion a darpariaethau darfodol a throsiannol er mwyn ymdrin â’r cyfnodau y mae rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”) wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru ynddynt a’r cyfnodau y bydd yn esempt rhag y gofyniad i fod wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf ac yn parhau i gael ei reoleiddio o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 ynddynt.

Mae erthygl 3 yn darparu diffiniad o “gwasanaeth trosiannol” i ddisgrifio sefydliadau ac asiantaethau perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn ceisiadau i gofrestru o dan y Ddeddf. Sefydliadau ac asiantaethau perthnasol yw cartrefi gofal, cartrefi plant, cartrefi plant sy’n darparu llety at ddiben cyfyngu ar ryddid plant, canolfannau preswyl i deuluoedd ac asiantaethau gofal cartref ac sydd wedi eu cynnal gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn union cyn y prif ddiwrnod penodedig.

Mae erthygl 4 yn datgymhwyso, am gyfnod trosiannol, adran 5 o’r Ddeddf. Mae adran 5 yn ei gwneud yn drosedd darparu gwasanaeth rheoleiddiedig heb fod yn gofrestredig o dan y Ddeddf. Ni fydd person sy’n cynnal sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol yn atebol o dan adran 5 tan y dyddiad perthnasol sy’n gymwys i’r math o sefydliad neu asiantaeth ond, ar yr amod ei fod wedi cyflwyno cais i gofrestru o dan y Ddeddf cyn y dyddiad perthnasol, mae’r cyfnod trosiannol yn cael ei estyn i’r amser pan benderfynir ar y cais hwnnw.

Mae erthygl 5 yn darparu, pan fo sefydliad neu asiantaeth yn ddarostyngedig i ganslo ond na phenderfynwyd ar y broses ar y dyddiad erbyn pryd y byddai rhaid gwneud cais i gofrestru o dan adran 6 o’r Ddeddf fel arfer, yna caiff y dyddiad ei ohirio i ddyddiad sydd 6 wythnos ar ôl penderfynu ar y broses ganslo. Yr effaith felly yw estyn y cyfnod trosiannol.

Mae erthygl 6 yn arbed darpariaethau perthnasol yn Rhan 2 o Ddeddf 2000 fel bod y darpariaethau yn Rhan 2, a rheoliadau a wneir o dan Ran 2, yn parhau i fod yn gymwys i’r rheini y mae eu gweithgaredd wedi ei lywodraethu ganddynt yn ystod y cyfnod trosiannol. Mae’r arbedion yn gymwys i ddarparwyr, i’r awdurdod cofrestru, i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ac i Lysoedd Ynadon ond nid i reolwyr. Mae cofrestriad rheolwr sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 yn dod i ben felly ar 2 Ebrill 2018.

Mae erthygl 7 yn gwneud addasiad darfodol i’r diffiniadau o “gwasanaeth cartref gofal” a “gwasanaeth cymorth cartref” yn Atodlen 1 sy’n cynnwys cyfeiriadau at “gwasanaethau lleoli oedolion” oherwydd nad yw cychwyn Rhan 1 o’r Ddeddf ar gyfer “gwasanaethau lleoli oedolion” yn rhan o’r cyfnod cychwyn hwn.

Mae erthygl 8 yn gwneud addasiad darfodol i adrannau 189 i 191 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o ran methiant busnes gwasanaethau nad yw eu rheoleiddio o dan y Ddeddf wedi cael ei gychwyn eto ac sy’n parhau i gael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2000. Mae’r addasiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r adrannau gael eu darllen fel pe na bai’r diwygiadau canlyniadol a wneir iddynt gan y Ddeddf yn gymwys.

Mae erthygl 9 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ohirio ystyriaeth o gais i gofrestru o dan y Ddeddf pan fo’r gwasanaeth yn un sy’n ddarostyngedig i un o’r mesurau gorfodi penodedig, tan ar ôl canlyniad y broses sy’n ymwneud â’r mesur gorfodi.

Mae erthygl 10 yn caniatáu i Weinidogion Cymru drin cais i gofrestru o dan Ddeddf 2000 na phenderfynwyd arno fel pe bai’n gais i gofrestru o dan adran 6 o’r Ddeddf a gofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol i’w galluogi i wneud hynny.

Mae erthygl 11 yn caniatáu i Weinidogion Cymru beidio â phenderfynu ar gais i amrywio neu ddileu amodau cofrestru a wneir gan ddarparwr sydd, yn ystod y cyfnod trosiannol, yn dal i gael ei reoleiddio o dan Ddeddf 2000 ac yn lle hynny, cânt ei ystyried fel rhan o gais y darparwr i gofrestru o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 12 yn darparu, os yw rheolwr sefydliad neu asiantaeth yn ddarostyngedig i hysbysiad o benderfyniad i ganslo ei gofrestriad a bod y rheolwr, cyn i’r cyfnod trosiannol ddod i ben, wedi cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf, y bydd cofrestriad y rheolwr wedyn yn parhau hyd nes y penderfynir ar yr apêl neu y rhoddir y gorau iddi.

Mae erthygl 13 yn gwneud darpariaeth i ymdrin ag amgylchiadau pan fo sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol, ar y prif ddiwrnod penodedig, yn cael ei gynnal neu ei chynnal gan gynrychiolwyr personol yn dilyn marwolaeth y person a oedd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf 2000.

Mae erthygl 14 yn gwneud darpariaeth ar gyfer personau sydd wedi bod yn darparu gwasanaethau gofal cartref yng Nghymru cyn 1 Chwefror ond nad ydynt wedi gallu cofrestru fel asiantaeth gofal cartref oherwydd bod eu busnes y tu allan i Gymru. Pan fo’r darparwyr hyn yn gwneud cais i gofrestru o dan adran 6 o’r Ddeddf erbyn 2 Ebrill 2018 byddant yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau ac ni fyddant yn agored i’w herlyn o dan adran 5 o’r Ddeddf.

Mae erthygl 15 yn gwneud darpariaeth ar gyfer person sydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf 2000 fel person sy’n cynnal asiantaeth nyrsys a phan fo cais yn cael ei wneud o dan adran 6 o’r Ddeddf i gofrestru mewn cysylltiad â’r ymgymeriad fel gwasanaeth cymorth cartref.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Rhan 1
Adran 56(1) (yn rhannol)4 Medi 20172017/846 (Cy. 206) (C. 71)
Adran 56(2)4 Medi 20172017/846 (Cy. 206) (C. 71)
Rhan 2 (adrannau 65 a 66)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 3
Adran 67 (yn rhannol)11 Gorffennaf 20162016/713 (Cy. 191) (C. 51)
Adran 68 (yn rhannol)11 Gorffennaf 20162016/713 (Cy. 191) (C. 51)
Adran 73(1) a (2) (yn rhannol)11 Gorffennaf 20162016/713 (Cy. 191) (C. 51)
Adran 75 (yn rhannol)11 Gorffennaf 20162016/713 (Cy. 191) (C. 51)
I’r graddau nad yw eisoes mewn grym, Rhan 3 ac Atodlen 23 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 4 (adrannau 79 i 111)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 5 (adrannau 112 i 116)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 6 (adrannau 117 i 164)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 7 (adrannau 165 i 173)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 8 (adrannau 174 a 175)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 9 (adrannau 176 i 182)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 10 (adrannau 183 a 184)3 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Rhan 11
Adran 185 ac Atodlen 3 i’r graddau y maent yn ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 33 Ebrill 20172017/309 (Cy. 80) (C. 29)
Adran 185 ac Atodlen 3 i’r graddau y maent yn ymwneud â Rhan 3 o Atodlen 36 Ebrill 20162016/467 (Cy. 149) (C. 28)