Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “cyfnod talu” (“payment period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;

  • ystyr “derbynnydd” (“recipient”) yw person y rhoddir hysbysiad cosb iddo yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

  • ystyr “hysbysiad cosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad cosb a roddir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;

  • ystyr “rheoleiddiwr gwasanaethau” (“service regulator”) yw Gweinidogion Cymru;

  • ystyr “y Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau” (“the Service Providers Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 20172;

  • ystyr “trosedd” (“offence”) yw trosedd ragnodedig.