NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn sefydlu system newydd o reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy’n disodli’r system a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Mae adran 2 o’r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi yn pennu’r gwasanaethau sy’n “gwasanaethau rheoleiddiedig” at ddibenion y Ddeddf.

Cyfeirir at berson sydd wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaethau rheoleiddiedig fel “darparwr gwasanaeth” ac mae rheoliadau a wneir o dan adran 27 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y maent yn eu darparu.

Mae adran 6 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth ddynodi unigolyn fel yr “unigolyn cyfrifol” mewn cysylltiad â phob man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig i gael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef ac mae rheoliadau a wneir o dan adran 28 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar yr unigolyn cyfrifol mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’n gyfrifol amdanynt.

Mae adran 52 o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru (gan weithredu fel y rheoleiddiwr gwasanaethau) i roi hysbysiad cosb i berson yn lle dwyn achos am drosedd, ond dim ond mewn perthynas â’r troseddau hynny a ragnodir mewn rheoliadau. Mae’r pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a bennir yn adran 52(2) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 3 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn yr Atodlen yn rhagnodi’r troseddau y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb ar eu cyfer. Mae’r ail golofn yn y tabl hwnnw yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd.

Mae rheoliad 4 a’r drydedd golofn yn y tabl yn yr Atodlen yn pennu swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r troseddau rhagnodedig. Mynegir y symiau sy’n daladwy fel lluosrifau o’r swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol (ac maent yn amrywio rhwng lluosrifau o un i ddwywaith a hanner).

Mae rheoliadau 5 a 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amser erbyn pryd y mae rhaid talu hysbysiad cosb ac yn pennu’r ffordd y caniateir i swm gael ei dalu ynddi.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfnod pan na chaniateir i achos gael ei gychwyn am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl wedi iddo gael ei roi, canlyniadau’r tynnu’n ôl hwnnw, ac yn pennu pa bryd y caniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau mewn cysylltiad â’r drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi.

Mae rheoliad 9 yn nodi’r gofynion ar gyfer cynnwys hysbysiad cosb.

Mae rheoliad 10 yn nodi’r gofynion o ran y cofnodion sydd i gael eu cadw gan y rheoleiddiwr gwasanaethau mewn cysylltiad ag unrhyw hysbysiad cosb a roddir ganddo.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.