Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018.
(3)
Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “cyfnod talu” (“payment period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;
ystyr “derbynnydd” (“recipient”) yw person y rhoddir hysbysiad cosb iddo yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “hysbysiad cosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad cosb a roddir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;
ystyr “rheoleiddiwr gwasanaethau” (“service regulator”) yw Gweinidogion Cymru;
ystyr “trosedd” (“offence”) yw trosedd ragnodedig.
Troseddau rhagnodedig3.
Swm y gosb4.
Mae swm y gosb sydd i gael ei dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn yr Atodlen.
Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb5.
Yr amser erbyn pryd y mae’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i gael ei thalu yw diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad (“cyfnod talu”).
Talu’r gosb6.
(1)
Rhaid talu’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i’r rheoleiddiwr gwasanaethau drwy’r dull a bennir yn yr hysbysiad.
(2)
Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan y rheoleiddiwr gwasanaethau neu ar ei ran, sy’n datgan bod taliad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth i’r ffeithiau a ddatgenir.
Y cyfnod pan na chaniateir i achos gael ei gychwyn7.
(1)
Pan fo derbynnydd yn cael hysbysiad cosb, ni chaniateir i achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi gael ei gychwyn yn erbyn y derbynnydd cyn diwedd y cyfnod talu.
(2)
Tynnu hysbysiad cosb yn ôl8.
(1)
Caiff y rheoleiddiwr gwasanaethau dynnu hysbysiad cosb yn ôl drwy roi rhybudd ysgrifenedig o’r tynnu’n ôl i’r derbynnydd—
(a)
os yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn penderfynu—
(i)
na ddylai fod wedi cael ei roi, neu
(ii)
na ddylai fod wedi cael ei roi i’r person a enwir fel y derbynnydd; neu
(b)
os yw’n ymddangos i’r rheoleiddiwr gwasanaethau fod yr hysbysiad yn cynnwys gwallau perthnasol.
(2)
Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1) pa un a yw’r cyfnod talu wedi dod i ben ai peidio, a pha un a yw’r gosb wedi cael ei thalu ai peidio.
(3)
Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad hwnnw, i’r person a’i talodd.
(4)
Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (5), ni chaniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau yn erbyn derbynnydd am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi pan fo’r hysbysiad wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1).
(5)
Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff (1)(b), caniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb hwnnw mewn cysylltiad â hi os yw hysbysiad cosb pellach wedi cael ei roi mewn cysylltiad â’r drosedd ac nad yw’r gosb wedi ei thalu cyn diwedd y cyfnod talu.
Cynnwys hysbysiad cosb9.
(1)
Rhaid i hysbysiad cosb roi’r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn drosedd y mae’n ymddangos i’r rheoleiddiwr gwasanaethau eu bod yn rhesymol ofynnol i roi gwybodaeth i’r derbynnydd amdani.
(2)
Rhaid i hysbysiad cosb ddatgan—
(a)
enw a chyfeiriad y derbynnydd;
(b)
swm y gosb;
(c)
y cyfnod talu;
(d)
y bydd talu o fewn y cyfnod hwnnw yn rhyddhau unrhyw atebolrwydd am y drosedd;
(e)
y cyfnod pan na fydd achos yn cael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi;
(f)
y canlyniadau os na chaiff y gosb ei thalu cyn i’r cyfnod ar gyfer ei thalu ddod i ben;
(g)
y person y caniateir i’r gosb gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu ac y caniateir anfon unrhyw ohebiaeth am yr hysbysiad cosb iddo;
(h)
y dulliau a ganiateir ar gyfer talu’r gosb;
(i)
ar ba seiliau y caniateir i’r hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl.
Cofnodion10.
Rhaid i’r rheoleiddiwr gwasanaethau gadw cofnod o unrhyw hysbysiadau cosb a roddir, y mae rhaid iddo gynnwys—
(a)
copi o bob hysbysiad cosb a roddir;
(b)
cofnod o’r holl daliadau a wnaed a’r dyddiad pan y’u derbyniwyd;
(c)
manylion unrhyw hysbysiad cosb sydd wedi ei dynnu’n ôl a’r seiliau dros hynny;
(d)
manylion ynghylch a gafodd y derbynnydd ei erlyn am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb ar ei chyfer.
YR ATODLENTroseddau rhagnodedig
Y ddarpariaeth sy’n creu’r drosedd | Natur gyffredinol y drosedd | Swm y gosb |
|---|---|---|
Adran 47 o’r Ddeddf | Gwneud datganiadau anwir | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol(1) |
Adran 48 o’r Ddeddf | Methiant i gyflwyno datganiad blynyddol | Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol |
Adran 49 o’r Ddeddf | Methiant i ddarparu gwybodaeth | Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 7(3) a (5) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 11(3) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â sefyllfa ariannol y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 12(1) a (2) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 19(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 20(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu cytundeb gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 35(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 38(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 59(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chreu a chynnal cofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 60(1), (2) a (4) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 67(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 74(1) a (2) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd ar ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 75(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 80(4) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gofal, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 81(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Rheoliad 84(1) a (3) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau | Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy | Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol |
Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn sefydlu system newydd o reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy’n disodli’r system a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Mae adran 2 o’r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi yn pennu’r gwasanaethau sy’n “gwasanaethau rheoleiddiedig” at ddibenion y Ddeddf.
Cyfeirir at berson sydd wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaethau rheoleiddiedig fel “darparwr gwasanaeth” ac mae rheoliadau a wneir o dan adran 27 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y maent yn eu darparu.
Mae adran 6 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth ddynodi unigolyn fel yr “unigolyn cyfrifol” mewn cysylltiad â phob man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig i gael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef ac mae rheoliadau a wneir o dan adran 28 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar yr unigolyn cyfrifol mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’n gyfrifol amdanynt.
Mae adran 52 o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru (gan weithredu fel y rheoleiddiwr gwasanaethau) i roi hysbysiad cosb i berson yn lle dwyn achos am drosedd, ond dim ond mewn perthynas â’r troseddau hynny a ragnodir mewn rheoliadau. Mae’r pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a bennir yn adran 52(2) o’r Ddeddf.
Mae rheoliad 3 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn yr Atodlen yn rhagnodi’r troseddau y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb ar eu cyfer. Mae’r ail golofn yn y tabl hwnnw yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd.
Mae rheoliad 4 a’r drydedd golofn yn y tabl yn yr Atodlen yn pennu swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r troseddau rhagnodedig. Mynegir y symiau sy’n daladwy fel lluosrifau o’r swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol (ac maent yn amrywio rhwng lluosrifau o un i ddwywaith a hanner).
Mae rheoliadau 5 a 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amser erbyn pryd y mae rhaid talu hysbysiad cosb ac yn pennu’r ffordd y caniateir i swm gael ei dalu ynddi.
Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfnod pan na chaniateir i achos gael ei gychwyn am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl wedi iddo gael ei roi, canlyniadau’r tynnu’n ôl hwnnw, ac yn pennu pa bryd y caniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau mewn cysylltiad â’r drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi.
Mae rheoliad 9 yn nodi’r gofynion ar gyfer cynnwys hysbysiad cosb.
Mae rheoliad 10 yn nodi’r gofynion o ran y cofnodion sydd i gael eu cadw gan y rheoleiddiwr gwasanaethau mewn cysylltiad ag unrhyw hysbysiad cosb a roddir ganddo.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.