(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn Cychwyn hwn gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Dŵr 2014 (“Deddf 2014”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym adrannau 17 a 38 o Ddeddf 2014 at yr holl ddibenion sy’n weddill ar y diwrnod drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn. Mae adran 17 yn diwygio Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 (“Deddf 1991”) drwy ganiatáu i reolau gael eu dyroddi ynghylch taliadau y caniateir eu codi gan ymgymerwyr dŵr ac ymgymerwyr carthffosiaeth am gysylltiadau i brif bibellau dŵr, carthffosydd cyhoeddus a rhywfaint o seilwaith cysylltiedig, ac am eu darparu. Mae adran 38 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi a diwygio canllawiau mewn perthynas â’r rheolau ynghylch codi taliadau a ddyroddir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (“Ofwat”).
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2019 adrannau 8 i 11 o Ddeddf 2014. Mae’r darpariaethau hyn yn diwygio Deddf 1991 ac yn darparu pwerau newydd i Ofwat ddyroddi rheolau codi taliadau mewn cysylltiad â chynlluniau taliadau ymgymerwyr, taliadau cysylltu, a thaliadau am swmp gyflenwadau dŵr (a chysylltiadau ar gyfer carthffosiaeth) rhwng ymgymerwyr.
Mae adran 8 o Ddeddf 2014 yn rhoi adrannau 40 i 40J newydd yn lle adrannau 40 a 40A o Ddeddf 1991 i reoleiddio cytundebau swmp gyflenwadau dŵr rhwng ymgymerwr dŵr ac ymgymerwr dŵr arall, neu berson sydd wedi gwneud cais i ddod yn ymgymerwr.
Mae adran 9 o Ddeddf 2014 yn rhoi adrannau 110A i 110J newydd yn lle’r adran 110A bresennol o Ddeddf 1991 i reoleiddio cytundebau prif gysylltiadau rhwng ymgymerwr carthffosiaeth ac ymgymerwr carthffosiaeth arall, neu berson sydd wedi gwneud cais i ddod yn ymgymerwr.
Mae adran 10 o Ddeddf 2014 yn diwygio adran 51A o Ddeddf 1991 ac yn rhoi adrannau 51B i 51CG newydd yn lle adrannau 51B a 51C o’r Ddeddf honno i reoleiddio cytundebau rhwng ymgymerwr dŵr ac unrhyw berson sy’n ceisio darparu prif bibellau dŵr neu bibellau cyflenwi i’w mabwysiadu yn y pen draw gan yr ymgymerwr dŵr.
Mae adran 11 o Ddeddf 2014 yn diwygio adran 104 o Ddeddf 1991 ac yn mewnosod adrannau 105ZA i 105ZI newydd yn y Ddeddf honno i reoleiddio trefniadau rhwng ymgymerwr carthffosiaeth ac unrhyw berson sy’n ceisio darparu carthffosydd, draeniau neu weithfeydd gwaredu carthffosiaeth i’w mabwysiadu yn y pen draw gan yr ymgymerwr carthffosiaeth.
Mae adrannau 8 i 11 hefyd yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar gynnwys y rheolau codi taliadau newydd a gyflwynir gan yr adrannau hynny. Mae’r pŵer i ddyroddi canllawiau o dan y darpariaethau a fewnosodir gan adrannau 8 a 9 yn arferadwy ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â chytundebau penodol.