Darpariaeth drosiannol3

Nid yw’r diwygiad a wneir gan reoliad 2(2) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo, cyn y dyddiad y daw’r rheoliad hwnnw i rym—

a

hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus yn cael ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol; neu

b

gwaith adeiladu yn cael ei wneud neu wedi ei wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath, boed unrhyw wyro oddi wrth yr hysbysiad neu gynlluniau hynny ai peidio.