Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2017.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiadau a ganlyn—
a
y rheoliad hwn, rheoliad 2(1), 2(3)(a), 2(3)(b)(i) a 2(3)(b)(iii) ar 15 Ionawr 2018;
b
rheoliad 2(3)(b)(ii) ar 28 Chwefror 2018;
c
rheoliadau 2(2) a 3 ar 1 Ebrill 2018.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
4
Yn y rheoliad hwn mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” gan yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 20094.