- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“y Rheoliadau Adeiladu”) o ran Cymru.
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 37A(1) o’r Rheoliadau Adeiladu. Mae rheoliad 37A o’r Rheoliadau Adeiladu yn gymwys pan fo gwaith adeiladu yn cynnwys adeiladu’r mathau o adeiladau a restrir ym mharagraff (1), neu newid eu defnydd yn sylweddol. Pan fo’r rheoliad hwnnw’n gymwys, rhaid darparu system llethu tân awtomatig yn yr adeiladau hynny. Mae’r mathau o adeiladau y mae’n ofynnol darparu system llethu tân awtomatig ynddynt yn cynnwys ystafelloedd at ddibenion preswyl ac eithrio’r rhai a restrir fel eithriadau. Roedd hostelau wedi eu heithrio o’r gofyniad yn flaenorol. Effaith y diwygiad yn rheoliad 2(2) yw ei bod yn ofynnol bellach i systemau llethu tân awtomatig gael eu darparu mewn ystafelloedd mewn hostelau, ac eithrio’r ystafelloedd hynny sy’n darparu llety dros dro i’r rheini sy’n preswylio fel arfer yn rhywle arall.
Mae rheoliad 2(3) yn diweddaru’r rhestr o gynlluniau personau cymwys yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Adeiladu (cynlluniau hunanardystio ac esemptiadau o’r gofyniad i roi hysbysiad adeiladu neu adneuo planiau llawn). Cynllun person cymwys yw cynllun y gall gosodwyr gofrestru arno i hunanardystio bod eu gwaith adeiladu yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: