2017 Rhif 1274 (Cy. 296)
Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2017
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Coming into force in accordance with regulation 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 19841, a pharagraffau 2, 4, 4A, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o’r Ddeddf honno3, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2017.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiadau a ganlyn—
a
y rheoliad hwn, rheoliad 2(1), 2(3)(a), 2(3)(b)(i) a 2(3)(b)(iii) ar 15 Ionawr 2018;
b
rheoliad 2(3)(b)(ii) ar 28 Chwefror 2018;
c
rheoliadau 2(2) a 3 ar 1 Ebrill 2018.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
4
Yn y rheoliad hwn mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” gan yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 20094.
Diwygio Rheoliadau Adeiladu 20102
1
Mae Rheoliadau Adeiladu 20105 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 37A(1) (darparu systemau llethu tân awtomatig)6 yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder—
i
a hostel providing temporary accommodation to those who are ordinarily resident elsewhere;
3
Yn Atodlen 3 (cynlluniau hunanardystio ac esemptiadau i’r gofyniad i roi hysbysiad adeiladu neu adneuo planiau llawn)7—
a
ym mharagraffau 4, 8, 9, 12, 13, 14 a 15 o golofn 2, hepgorer “Benchmark Certification Limited,”;
b
ym mharagraffau 10 ac 11 o golofn 2—
i
o flaen “BM Trada Certification Limited” mewnosoder “Assure Certification Limited8,”;
ii
hepgorer “BM Trada Certification Limited,”; a
iii
hepgorer “, Network VEKA Limited”.
Darpariaeth drosiannol3
Nid yw’r diwygiad a wneir gan reoliad 2(2) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo, cyn y dyddiad y daw’r rheoliad hwnnw i rym—
a
hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus yn cael ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol; neu
b
gwaith adeiladu yn cael ei wneud neu wedi ei wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath, boed unrhyw wyro oddi wrth yr hysbysiad neu gynlluniau hynny ai peidio.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)