ATODLEN 1

Rheoliad 35

RHAN 1Gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig

I11

Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I22

Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 199728, copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys29 a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, â’r wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I33

Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys30 a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â’r wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I44

Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diweddaraf, os oes un.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I55

Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I66

Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I77

Pan fo’n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I88

Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I99

Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal a chymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu gofal a chymorth ar eu cyfer.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I1010

Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff o’r fath.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Dehongli Rhan 1

I1111

At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—

a

os nad yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

i

os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 34(3) neu (6), a

ii

os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers i’r dystysgrif gael ei dyroddi;

b

os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 2Cofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau rheoleiddiedig

Rheoliad 59

RHAN 1Cofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig

I121

Mewn cysylltiad â phob unigolyn, cofnodion—

a

o bob asesiad perthnasol;

b

o gynlluniau personol;

c

o adolygiadau o gynlluniau personol;

d

o gynlluniau gofal a chymorth;

e

o adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth;

f

o’r gofal a ddarperir; gan gynnwys cofnodion dyddiol neu gofnodion o ymyriadau gofal penodol;

g

o ohebiaeth, adroddiadau a chofnodion mewn perthynas â chymorth ychwanegol a ddarperir gan wasanaethau addysg, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau perthynol eraill.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I132

Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am y ddarpariaeth o ofal a chymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I143

Cofnod o’r holl feddyginiaethau a gedwir yn y gwasanaeth ar gyfer pob unigolyn a’r dyddiad a’r amser y rhoddwyd y meddyginiaethau hynny i’r unigolyn.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I154

Cofnod o’r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a roddwyd gan yr unigolyn i’w cadw’n ddiogel neu a gafwyd ar ran yr unigolyn, y mae rhaid iddo gynnwys cofnod o’r canlynol—

a

y dyddiad pan roddwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr i’w cadw neu pan gafwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;

b

y dyddiad pan gafodd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr—

i

eu dychwelyd at yr unigolyn, neu

ii

eu defnyddio, ar gais yr unigolyn, ar ei ran;

c

pan fo’n gymwys, at ba ddiben y defnyddiwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;

d

cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu’r pethau gwerthfawr wedi eu dychwelyd.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I165

Cofnod o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—

a

unrhyw ddamwain, anaf, neu salwch difrifol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar lesiant unigolyn;

b

achos o glefyd heintus yn y gwasanaeth;

c

unrhyw achos o ddwyn neu fwrgleriaeth;

d

unrhyw atgyfeiriad diogelu a wneir mewn cysylltiad ag unigolyn;

e

achosion o gwympo a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;

f

achosion o wlserau pwyso a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;

g

dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheolaeth, atal neu ddisgyblu a ddefnyddir ar unigolyn.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I176

Cofnod o bob ymarfer tân, dril tân neu brawf cyfarpar tân (gan gynnwys cyfarpar larwm tân) a gynhelir yn y gwasanaeth ac o unrhyw gamau gweithredu a gymerir i unioni diffygion yn y cyfarpar tân.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I187

Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I198

Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—

a

enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, cymwysterau a phrofiad y person;

b

copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;

c

copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;

d

y dyddiadau y mae’r person yn dechrau gweithio ac yn peidio â bod wedi ei gyflogi felly;

e

y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’n ei wneud a nifer yr oriau y mae wedi ei gyflogi bob wythnos;

f

cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;

g

cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I209

Copi o restr ddyletswyddau’r personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a chofnod o ran a oedd y rhestr yn gweithio yn ôl yr hyn a fwriadwyd mewn gwirionedd.

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Cofnodion ychwanegol sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd

I2110

Cofnod o unrhyw ddodrefn y mae unigolyn yn dod â hwy i’r ystafell y mae’n ei meddiannu.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I2211

Cofnod o unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—

a

unrhyw dân;

b

absenoldeb heb esboniad neu absenoldeb anawdurdodedig;

c

marwolaeth unigolyn.

Annotations:
Commencement Information
I22

Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I2312

Cofnod o’r holl ymwelwyr â’r gwasanaeth, gan gynnwys enwau ymwelwyr a’r personau y maent yn ymweld â hwy.

Annotations:
Commencement Information
I23

Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 3Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

Rheoliad 60

RHAN 1Hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau mewn cysylltiad â phob gwasanaeth

I241

Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.

Annotations:
Commencement Information
I24

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I252

Y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.

Annotations:
Commencement Information
I25

Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I263

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.

Annotations:
Commencement Information
I26

Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I274

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I27

Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I285

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.

Annotations:
Commencement Information
I28

Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I296

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.

Annotations:
Commencement Information
I29

Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I307

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.

Annotations:
Commencement Information
I30

Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I318

Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

Annotations:
Commencement Information
I31

Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I329

Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

Annotations:
Commencement Information
I32

Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I3310

Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

Annotations:
Commencement Information
I33

Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I3411

Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol..

Annotations:
Commencement Information
I34

Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I3512

Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth.

Annotations:
Commencement Information
I35

Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I3613

Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff.

Annotations:
Commencement Information
I36

Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I3714

Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.

Annotations:
Commencement Information
I37

Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I3815

Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.

Annotations:
Commencement Information
I38

Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I3916

Unrhyw wlser pwyso categori 3 neu 4, wlser pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam neu anaf dwfn i feinwe.

Annotations:
Commencement Information
I39

Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I4017

Bod unigolyn yn cael damwain, anaf neu salwch difrifol.

Annotations:
Commencement Information
I40

Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I4118

Achos o unrhyw glefyd heintus.

Annotations:
Commencement Information
I41

Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I4219

Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

Annotations:
Commencement Information
I42

Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I4320

Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.

Annotations:
Commencement Information
I43

Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I4421

Pan fo llety wedi ei ddarparu, marwolaeth unigolyn a’r amgylchiadau.

Annotations:
Commencement Information
I44

Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I4522

Unrhyw gais i gorff goruchwylio mewn perthynas â chymhwyso’r mesurau diogelwch amddifadu o ryddid (DOLS).

Annotations:
Commencement Information
I45

Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I4623

Bod y fangre yn cael ei newid neu ei hestyn yn sylweddol neu bwriedir gwneud hynny.

Annotations:
Commencement Information
I46

Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I4724

Bod mangre ychwanegol yn cael ei chaffael neu bwriedir gwneud hynny.

Annotations:
Commencement Information
I47

Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I4825

Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.

Annotations:
Commencement Information
I48

Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Hysbysiadau ychwanegol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu i blant

I4926

Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

Annotations:
Commencement Information
I49

Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I5027

Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 200931, hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I5128

Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.

Annotations:
Commencement Information
I51

Atod. 3 para. 28 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I5229

Unrhyw honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

Annotations:
Commencement Information
I52

Atod. 3 para. 29 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I5330

Achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

Annotations:
Commencement Information
I53

Atod. 3 para. 30 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I5431

Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

Annotations:
Commencement Information
I54

Atod. 3 para. 31 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3Hysbysiadau i’r awdurdod lleoli pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

I5532

Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth sy’n ymwneud â’r darparwr neu aelod o staff.

Annotations:
Commencement Information
I55

Atod. 3 para. 32 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I5633

Bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth yn cael damwain, anaf neu salwch difrifol.

Annotations:
Commencement Information
I56

Atod. 3 para. 33 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I5734

Unrhyw wlser pwyso categori 3 neu 4, wlser pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam neu anaf dwfn i feinwe.

Annotations:
Commencement Information
I57

Atod. 3 para. 34 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I5835

Achos o unrhyw glefyd heintus.

Annotations:
Commencement Information
I58

Atod. 3 para. 35 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I5936

Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

Annotations:
Commencement Information
I59

Atod. 3 para. 36 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I6037

Marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth a’r amgylchiadau.

Annotations:
Commencement Information
I60

Atod. 3 para. 37 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I6138

Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

Annotations:
Commencement Information
I61

Atod. 3 para. 38 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I6239

Honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

Annotations:
Commencement Information
I62

Atod. 3 para. 39 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I6340

Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

Annotations:
Commencement Information
I63

Atod. 3 para. 40 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I6441

Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.

Annotations:
Commencement Information
I64

Atod. 3 para. 41 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I6542

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

Annotations:
Commencement Information
I65

Atod. 3 para. 42 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4Hysbysiadau i’r awdurdod lleol y mae’r cartref yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

I6643

Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.

Annotations:
Commencement Information
I66

Atod. 3 para. 43 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I6744

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

Annotations:
Commencement Information
I67

Atod. 3 para. 44 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I6845

Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

Annotations:
Commencement Information
I68

Atod. 3 para. 45 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5Hysbysiadau i’r swyddog heddlu priodol pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

I6946

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

Annotations:
Commencement Information
I69

Atod. 3 para. 46 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6Hysbysiadau i’r bwrdd iechyd y mae’r cartref wedi ei leoli yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

I7047

Achos o unrhyw glefyd heintus.

Annotations:
Commencement Information
I70

Atod. 3 para. 47 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I7148

Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.

Annotations:
Commencement Information
I71

Atod. 3 para. 48 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 4Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

Rheoliad 84

I721

Penodi rheolwr (gweler rheoliad 7(1)).

Annotations:
Commencement Information
I72

Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I732

Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

Annotations:
Commencement Information
I73

Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I743

Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

Annotations:
Commencement Information
I74

Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I754

Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

Annotations:
Commencement Information
I75

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I765

Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.

Annotations:
Commencement Information
I76

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I776

Trefniadau interim pan fo’r rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.

Annotations:
Commencement Information
I77

Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I787

Bod rhywun arall ac eithrio’r rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoli’r gwasanaeth.

Annotations:
Commencement Information
I78

Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I798

Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neu’n bwriadu peidio, â rheoli’r gwasanaeth.