ATODLEN 4Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol
1.
Penodi rheolwr (gweler rheoliad 7(1)).
2.
Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.
3.
Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.
4.
Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.
5.
Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.
6.
Trefniadau interim pan fo’r rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.
7.
Bod rhywun arall ac eithrio’r rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoli’r gwasanaeth.
8.
Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neu’n bwriadu peidio, â rheoli’r gwasanaeth.