ATODLEN 3Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

Rheoliad 60

RHAN 1Hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau mewn cysylltiad â phob gwasanaeth

1.

Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.

Annotations:
Commencement Information

I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

2.

Y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.

Annotations:
Commencement Information

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

F13.

Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff corfforaethol, unrhyw newid i—

(a)

cyfarwyddwyr,

(b)

ymddiriedolwyr, neu

(c)

aelodau pwyllgor rheoli,

y corff corfforaethol.

F13A.

Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff anghorfforedig, unrhyw newid iʼr personau syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff.

4.

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.

Annotations:
Commencement Information

I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

5.

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r F2corff corfforaethol hwnnw neu’r bartneriaeth honno.

6.

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.

Annotations:
Commencement Information

I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

7.

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.

Annotations:
Commencement Information

I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

8.

Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

Annotations:
Commencement Information

I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

9.

Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

Annotations:
Commencement Information

I9Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

10.

Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

Annotations:
Commencement Information

I10Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

11.

Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol..

Annotations:
Commencement Information

I11Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

12.

Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth.

Annotations:
Commencement Information

I12Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

13.

Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff F3a/neu wirfoddolwr .

14.

Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.

Annotations:
Commencement Information

I14Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

15.

Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.

Annotations:
Commencement Information

I15Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

16.

Unrhyw F4niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam

17.

Bod unigolyn yn cael damwain F5neu anaf difrifol.

18.

Achos o unrhyw glefyd heintus.

Annotations:
Commencement Information

I18Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

19.

Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

Annotations:
Commencement Information

I19Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

20.

Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.

Annotations:
Commencement Information

I20Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

21.

Pan fo llety wedi ei ddarparu, marwolaeth unigolyn a’r amgylchiadau.

Annotations:
Commencement Information

I21Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

22.

Unrhyw gais i gorff goruchwylio mewn perthynas â chymhwyso’r mesurau diogelwch amddifadu o ryddid (DOLS).

Annotations:
Commencement Information

I22Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

23.

Bod y fangre yn cael ei newid neu ei hestyn yn sylweddol neu bwriedir gwneud hynny.

Annotations:
Commencement Information

I23Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

24.

Bod mangre ychwanegol yn cael ei chaffael neu bwriedir gwneud hynny.

Annotations:
Commencement Information

I24Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

25.

Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.

Annotations:
Commencement Information

I25Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

F625A.

Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.

RHAN 2Hysbysiadau ychwanegol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu i blant

26.

Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

Annotations:
Commencement Information

I26Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

27.

Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 200931, hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.
Annotations:
Commencement Information

I27Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

28.

Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.

Annotations:
Commencement Information

I28Atod. 3 para. 28 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

29.

Unrhyw honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

Annotations:
Commencement Information

I29Atod. 3 para. 29 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

30.

F7Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn .

31.

Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

Annotations:
Commencement Information

I31Atod. 3 para. 31 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3Hysbysiadau i’r awdurdod lleoli pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

32.

Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth sy’n ymwneud â’r darparwr neu aelod o staff.

Annotations:
Commencement Information

I32Atod. 3 para. 32 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

33.

Bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth yn cael damwain F8neu anaf difrifol.

34.

Unrhyw F9niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam.

35.

Achos o unrhyw glefyd heintus.

Annotations:
Commencement Information

I35Atod. 3 para. 35 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

36.

Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

Annotations:
Commencement Information

I36Atod. 3 para. 36 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

37.

Marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth a’r amgylchiadau.

Annotations:
Commencement Information

I37Atod. 3 para. 37 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

38.

Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

Annotations:
Commencement Information

I38Atod. 3 para. 38 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

39.

Honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

Annotations:
Commencement Information

I39Atod. 3 para. 39 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

40.

Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

Annotations:
Commencement Information

I40Atod. 3 para. 40 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

41.

Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.

Annotations:
Commencement Information

I41Atod. 3 para. 41 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

42.

F10Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn .

RHAN 4Hysbysiadau i’r awdurdod lleol y mae’r cartref yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

43.

Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.

Annotations:
Commencement Information

I43Atod. 3 para. 43 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

F1144.

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn

45.

Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

Annotations:
Commencement Information

I45Atod. 3 para. 45 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5Hysbysiadau i’r swyddog heddlu priodol pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

46.

F12Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn .

RHAN 6Hysbysiadau i’r bwrdd iechyd y mae’r cartref wedi ei leoli yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

47.

Achos o unrhyw glefyd heintus.

Annotations:
Commencement Information

I47Atod. 3 para. 47 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

48.

Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.