ATODLEN 3Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth
RHAN 3Hysbysiadau i’r awdurdod lleoli pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant
I132
Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth sy’n ymwneud â’r darparwr neu aelod o staff.
I233
Bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth yn cael damwain, anaf neu salwch difrifol.
I334
Unrhyw wlser pwyso categori 3 neu 4, wlser pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam neu anaf dwfn i feinwe.
I435
Achos o unrhyw glefyd heintus.
I536
Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.
I637
Marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth a’r amgylchiadau.
I738
Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
I839
Honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.
I940
Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.
I1041
Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.
I1142
Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.