ATODLEN 3Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth
RHAN 2Hysbysiadau ychwanegol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu i blant
I126
Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
I227
Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 200931, hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.
I328
Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.
I429
Unrhyw honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.
I530
Achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.
I631
Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.