ATODLEN 2Cofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau rheoleiddiedig
RHAN 1Cofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig
1.
Mewn cysylltiad â phob unigolyn, cofnodion—
(a)
o bob asesiad perthnasol;
(b)
o gynlluniau personol;
(c)
o adolygiadau o gynlluniau personol;
(d)
o gynlluniau gofal a chymorth;
(e)
o adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth;
(f)
o’r gofal a ddarperir; gan gynnwys cofnodion dyddiol neu gofnodion o ymyriadau gofal penodol;
(g)
o ohebiaeth, adroddiadau a chofnodion mewn perthynas â chymorth ychwanegol a ddarperir gan wasanaethau addysg, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau perthynol eraill.
2.
Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am y ddarpariaeth o ofal a chymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.
3.
Cofnod o’r holl feddyginiaethau a gedwir yn y gwasanaeth ar gyfer pob unigolyn a’r dyddiad a’r amser y rhoddwyd y meddyginiaethau hynny i’r unigolyn.
4.
Cofnod o’r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a roddwyd gan yr unigolyn i’w cadw’n ddiogel neu a gafwyd ar ran yr unigolyn, y mae rhaid iddo gynnwys cofnod o’r canlynol—
(a)
y dyddiad pan roddwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr i’w cadw neu pan gafwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;
(b)
y dyddiad pan gafodd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr—
(i)
eu dychwelyd at yr unigolyn, neu
(ii)
eu defnyddio, ar gais yr unigolyn, ar ei ran;
(c)
pan fo’n gymwys, at ba ddiben y defnyddiwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;
(d)
cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu’r pethau gwerthfawr wedi eu dychwelyd.
5.
Cofnod o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—
(a)
unrhyw ddamwain F1neu anaf difrifol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar lesiant unigolyn;
(b)
achos o glefyd heintus yn y gwasanaeth;
(c)
unrhyw achos o ddwyn neu fwrgleriaeth;
(d)
unrhyw atgyfeiriad diogelu a wneir mewn cysylltiad ag unigolyn;
(e)
achosion o gwympo a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;
(f)
achosion o F2niwed pwyso a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;
(g)
dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheolaeth, atal neu ddisgyblu a ddefnyddir ar unigolyn.
6.
Cofnod o bob ymarfer tân, dril tân neu brawf cyfarpar tân (gan gynnwys cyfarpar larwm tân) a gynhelir yn y gwasanaeth ac o unrhyw gamau gweithredu a gymerir i unioni diffygion yn y cyfarpar tân.
7.
Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.
8.
Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—
(a)
enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, cymwysterau a phrofiad y person;
(b)
copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;
(c)
copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;
(d)
y dyddiadau y mae’r person yn dechrau gweithio ac yn peidio â bod wedi ei gyflogi felly;
(e)
y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’n ei wneud a nifer yr oriau y mae wedi ei gyflogi bob wythnos;
(f)
cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;
(g)
cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.
9.
Copi o restr ddyletswyddau’r personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a chofnod o ran a oedd y rhestr yn gweithio yn ôl yr hyn a fwriadwyd mewn gwirionedd.
RHAN 2Cofnodion ychwanegol sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
10.
Cofnod o unrhyw ddodrefn y mae unigolyn yn dod â hwy i’r ystafell y mae’n ei meddiannu.
11.
Cofnod o unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—
(a)
unrhyw dân;
(b)
absenoldeb heb esboniad neu absenoldeb anawdurdodedig;
(c)
marwolaeth unigolyn.
12.
Cofnod o’r holl ymwelwyr â’r gwasanaeth, gan gynnwys enwau ymwelwyr a’r personau y maent yn ymweld â hwy.