ATODLEN 1

RHAN 1Gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig

I11

Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I22

Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 199728, copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys29 a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, â’r wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I33

Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys30 a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â’r wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I44

Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diweddaraf, os oes un.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I55

Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I66

Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I77

Pan fo’n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I88

Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I99

Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal a chymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu gofal a chymorth ar eu cyfer.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

I1010

Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff o’r fath.