RHAN 22Darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw

Marwolaeth darparwr gwasanaethI188

1

Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw, rhaid i gynrychiolwyr personol yr unigolyn—

a

yn ddi-oed, rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau;

b

o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’u bwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

2

Caiff cynrychiolwyr personol yr unigolyn weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau neu am gyfnod hwy (nad yw’n hwy nag un flwyddyn) y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno.

3

Pan fo’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (2), mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

a

nid yw adran 5 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys;

b

yn adran 21(2) (unigolion cyfrifol) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

aa

pan fo cynrychiolwyr personol darparwr gwasanaeth sydd wedi marw yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth, fod yn un o’r cynrychiolwyr personol;

4

Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwasanaeth” yw’r gwasanaeth neu’r gwasanaethau rheoleiddiedig yr oedd y darparwr gwasanaeth sydd wedi marw wedi ei gofrestru i’w ddarparu neu eu darparu ar adeg ei farwolaeth.