RHAN 18Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth
Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredolI179
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.