RHAN 16Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol
YmweliadauI173
1
Yn achos gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd24, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
a
ymweld â phob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, a
b
cwrdd â staff ac unigolion ym mhob man o’r fath.
2
Yn achos unrhyw wasanaethau rheoleiddiedig eraill25, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
a
cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ym mhob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, ohono neu mewn perthynas ag ef, a
b
cwrdd ag unigolion y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ym mhob man o’r fath, ohono neu mewn perthynas ag ef.
3
Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i gael ei benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.