RHAN 16Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol
Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaethI169
1
Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.
2
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os—
a
yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau i gael caniatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a
b
yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni o ran y trefniadau rheoli arfaethedig—
i
na fyddant yn cael effaith andwyol ar iechyd neu lesiant unigolion, a
ii
y byddant yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.