RHAN 16Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol
Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwrI168
1
Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
2
At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 35(2) (addasrwydd staff) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.