RHAN 15Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

Chwythu’r chwibanI165

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am faterion a all effeithio’n andwyol ar iechyd, diogelwch neu lesiant unigolion y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.

2

Rhaid i’r trefniadau hyn gynnwys—

a

cael polisi chwythu’r chwiban yn ei le a gweithredu yn unol â’r polisi hwnnw, a

b

sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath.

3

Rhaid i’r darparwr sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

4

Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—

a

yr ymchwilir i’r pryder;

b

y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad;

c

y cedwir cofnod o’r ddau bwynt uchod.