RHAN 15Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

Hysbysu mewn cysylltiad â phlant sy’n cael eu derbyn i fan, neu ei ryddhau o fan, y darperir llety i blant ynddoI161

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu—

a

gwasanaeth cartref gofal sy’n darparu llety i blant (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “gwasanaeth cartref gofal i blant”), neu

b

gwasanaeth llety diogel.

2

Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at “y llety” yn gyfeiriadau at y man y mae gwasanaeth cartref gofal i blant neu wasanaeth llety diogel wedi ei ddarparu ynddo.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu, yn ddi-oed, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety ynddi, am bob plentyn sy’n cael ei dderbyn i’r llety ac am bob plentyn sy’n cael ei ryddhau o’r llety.

4

Nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod lleol ym mharagraff (3) os yr awdurdod lleol hwnnw yw’r awdurdod lleoli ar gyfer y plentyn o dan sylw hefyd.

5

Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo ddatgan—

a

enw a dyddiad geni’r plentyn;

b

a yw llety wedi ei ddarparu i’r plentyn o dan adran 76 neu 77 o Ddeddf 2014 neu, yn achos plentyn a leolir gan awdurdod lleol yn Lloegr, a yw llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn o dan adran 20 neu 21 o Ddeddf Plant 1989;

c

a yw’r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal neu orchymyn goruchwylio o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989;

d

manylion cyswllt—

i

awdurdod lleoli’r plentyn; a

ii

y swyddog adolygu annibynnol a benodir ar gyfer achos y plentyn; ac

e

a oes gan y plentyn ddatganiad anghenion addysgol arbennig neu gynllun addysg, iechyd a gofal ac, os felly, fanylion yr awdurdod lleol a chanddo gyfrifoldeb am gynnal y datganiad anghenion addysgol arbennig neu’r cynllun addysg, iechyd a gofal.

6

Yn y rheoliad hwn, mae i “cynllun addysg, iechyd a gofal” yr ystyr a roddir i “EHC plan” yn adran 37(2) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 201422.