RHAN 12Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar

Cyfleusterau a chyfarparI148

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y cyfleusterau a’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth—

a

yn addas ac yn ddiogel at y diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio;

b

yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel;

c

wedi eu cynnal a’u cadw’n briodol;

d

wedi eu cadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol at y diben y cânt eu defnyddio;

e

wedi eu storio’n briodol.