RHAN 12Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar
Ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – plantI146
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu—
a
gwasanaeth cartref gofal sy’n cynnwys darparu llety i unigolion sy’n blant, neu
b
gwasanaeth llety diogel.
2
Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob plentyn yn cael ei letya mewn ystafell sengl. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni.
3
Yr amodau yw—
a
bod y llety yn cael ei ddarparu mewn gwasanaeth cartref gofal a oedd wedi ei gofrestru fel cartref plant o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000,
b
bod y llety a ddarperir wedi ei feddiannu ar yr adeg yr oedd y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf,
c
bod y plentyn yn rhannu ystafell â dim mwy nag un plentyn arall,
d
(ac eithrio yn achos brodyr neu chwiorydd) nad yw’r plentyn arall o’r rhyw arall neu o oedran sylweddol gwahanol iddo, ac
e
y bydd rhannu ystafell yn hybu llesiant y plentyn, y darperir ar ei gyfer yng nghynllun gofal a chymorth y plentyn ac y cytunir arno pryd bynnag y bo’n ymarferol â’r plentyn.