RHAN 12Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar

Ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – oedolionI145

1

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cartref gofal sy’n cynnwys darparu llety i unigolion sy’n oedolion, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob oedolyn yn cael ei letya mewn ystafelloedd sengl. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys naill ai—

a

os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, neu

b

os yw paragraff (3) yn gymwys.

2

Yr amodau yw—

a

bod oedolyn yn cytuno i rannu ystafell ag oedolyn arall;

b

bod rhannu ystafell yn gyson â llesiant y ddau oedolyn;

c

bod cynlluniau personol y ddau oedolyn wedi cael eu hadolygu a’u diwygio yn ôl yr angen;

d

nad yw nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth.

3

Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

a

roedd y gwasanaeth cartref gofal wedi ei gofrestru fel cartref gofal o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000;

b

roedd nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir ar yr adeg berthnasol yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth ar yr adeg berthnasol;

c

roedd yr holl oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol.

4

Ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn, ystyr “yr adeg berthnasol” yw’r adeg yr oedd y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf yn ddarparwr y gwasanaeth cartref gofal.