RHAN 11Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth cartref

Cynnig y dewis o drefniadau contractiol eraill i weithwyr gofal cartref sydd ar gontractau oriau heb eu gwarantuI142

1

Os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnig i weithiwr gofal cartref y dewis o barhau i gael ei gyflogi o dan y naill neu’r llall o’r mathau a ganlyn o drefniant contractiol—

a

contract cyflogaeth pan fo nifer yr oriau y mae’n ofynnol iddynt gael eu gweithio yr wythnos o leiaf yn gyfwerth â nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd yr wythnos yn ystod y tri mis blaenorol;

b

contract cyflogaeth pan fo nifer yr oriau y mae’n ofynnol iddynt gael eu gweithio yr wythnos yn llai na nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd yr wythnos yn ystod y tri mis blaenorol.

Ond nid yw’r gofyniad hwn yn atal y darparwr gwasanaeth rhag cyflogi gweithiwr gofal cartref ar unrhyw fath arall o drefniant contractiol y cytunwyd arno rhwng y darparwr a’r gweithiwr, gan gynnwys contract oriau heb eu gwarantu pellach.

2

Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

a

bod y gweithiwr gofal cartref wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract oriau heb eu gwarantu ar gyfer y cyfnod cymhwysol,

b

bod y gweithiwr gofal cartref wedi gweithio oriau rheolaidd yn ystod y tri mis cyn diwedd y cyfnod cymhwysol,

c

bod y darparwr wedi penderfynu bod angen o hyd i’r oriau gael eu gweithio ar sail barhaus, a

d

bod y gweithiwr gofal cartref wedi perfformio’n foddhaol yn ystod y cyfnod cymhwysol.

3

At ddibenion y rheoliad hwn—

  • ystyr “contract oriau heb eu gwarantu” (“non-guaranteed hours contract”) yw contract cyflogaeth neu gontract gweithiwr arall—

    1. a

      y mae’r ymgymeriad i wneud gwaith neu i gyflawni gwasanaethau odano yn ymgymeriad i wneud hynny ar yr amod bod y cyflogwr yn gwneud gwaith neu wasanaethau ar gael i’r gweithiwr, a

    2. b

      nad oes unrhyw sicrwydd odano y bydd unrhyw waith o’r fath neu unrhyw wasanaethau o’r fath yn cael eu gwneud ar gael i’r gweithiwr.

      At ddiben y diffiniad hwn, mae cyflogwr yn gwneud gwaith neu wasanaethau ar gael i weithiwr os yw’r cyflogwr yn gofyn i’r gweithiwr wneud y gwaith neu gyflawni’r gwasanaethau neu’n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny;

  • “y cyfnod cymhwysol” (“the qualifying period”) yw—

    1. a

      mewn unrhyw achos pan fo’r gweithiwr wedi dechrau cyflogaeth ar ôl y dyddiad perthnasol, y cyfnod o dri mis o ddyddiad dechrau’r gyflogaeth;

    2. b

      mewn unrhyw achos pan ddechreuodd y gweithiwr gyflogaeth cyn y dyddiad perthnasol, y cyfnod o dri mis sy’n dod i ben gyda’r dyddiad cychwyn;

    3. c

      mewn unrhyw achos pan fo’r gweithiwr wedi, yn flaenorol, gael cynnig y dewis o drefniant contractiol arall yn unol â gofynion y rheoliad hwn ac wedi dewis aros ar gontract oriau heb eu gwarantu, y cyfnod o dri mis o ddyddiad gwneud unrhyw ddewis o’r fath.

      At ddibenion y diffiniad hwn—

  • “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r rheoliad hwn i rym;

  • “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad sy’n dod dri mis cyn y dyddiad cychwyn;

ystyr “gweithiwr gofal cartref” (“domiciliary care worker”) yw person sy’n darparu gofal a chymorth i unigolion fel rhan o wasanaeth cymorth cartref ac mae’n cynnwys person a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr ond nid yw’n cynnwys person a gymerir ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau.

4

At ddibenion y rheoliad hwn—

a

mae i’r termau “contract cyflogaeth”, “cyflogwr”, “cyflogai” a “cyflogaeth” yr un ystyron â “contract of employment”, “employer”, “employee” ac “employment” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 ac mae i’r termau “a gyflogir”, “cael ei gyflogi” ac “wedi ei gyflogi” yr un ystyr ag “employed” yn yr adran honno o’r Ddeddf honno;

b

mae i “gweithiwr” yr un ystyr â “worker” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, ac eithrio nad yw person a gymerir ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau yn weithiwr at ddiben y rheoliad hwn. Mae unrhyw gyfeiriad at gontract gweithiwr i gael ei ddehongli yn unol â hynny.