RHAN 11Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth cartref

Amlinellu amser teithio ac amser gofalI141

1

Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

a

llunio amserlen ymweliadau mewn cysylltiad â phob gweithiwr gofal cartref sy’n gweithio yn y gwasanaeth; a

b

darparu copi o’r amserlen ymweliadau berthnasol i’r gweithiwr gofal cartref y mae’r amserlen honno yn ymwneud ag ef.

2

Rhaid i’r amserlen ymweliadau amlinellu’r amser a neilltuir ar gyfer amser teithio, yr amser a neilltuir ar gyfer pob ymweliad ac (os yw’n gymwys) yr amser a neilltuir ar gyfer seibiannau gorffwys.

3

Rhaid i’r amser a neilltuir ar gyfer amser teithio fod yn ddigonol gan roi sylw i—

a

y pellter rhwng lleoliad un ymweliad sydd wedi ei amserlennu a’r ymweliad nesaf sydd wedi ei amserlennu; a

b

unrhyw ffactorau eraill y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt effeithio ar amser teithio, megis tagfeydd traffig ac argaeledd cyfleusterau parcio yn lleoliad yr ymweliadau sydd wedi eu hamserlennu.

4

Rhaid i’r amser a neilltuir ar gyfer pob ymweliad—

a

bod yn ddigonol i alluogi i ofal a chymorth gael eu darparu i’r unigolyn yn unol â’i gynllun personol; a

b

peidio â bod yn llai na 30 munud oni bai y bodlonir naill ai amod A, B neu C, fel y’u disgrifir yn adran 8 o’r Ddeddf.

5

Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod cofnod yn cael ei gadw o’r amser a dreulir gan bob gweithiwr gofal cartref ar amser teithio, ymweliadau a seibiannau gorffwys.

6

At ddibenion y rheoliad hwn—

  • mae “amser teithio” (“travel time”) yn cynnwys yr amser a dreulir wrth deithio rhwng lleoliad un ymweliad sydd wedi ei amserlennu a lleoliad yr ymweliad nesaf sydd wedi ei amserlennu ond nid yw’n cynnwys unrhyw amser a dreulir wrth deithio o gartref y gweithiwr gofal cartref i leoliad yr ymweliad cyntaf sydd wedi ei amserlennu nac unrhyw amser a dreulir wrth deithio o leoliad yr ymweliad olaf sydd wedi ei amserlennu i gartref y gweithiwr gofal cartref;

  • ystyr “amserlen ymweliadau” (“schedule of visits”) yw amserlen o’r ymweliadau y mae’n ofynnol i weithiwr gofal cartref eu cyflawni yn ystod diwrnod neu wythnos;

  • ystyr “gweithiwr gofal cartref” (“domiciliary care worker”) yw person sy’n darparu gofal a chymorth i unigolion fel rhan o wasanaeth cymorth cartref ac mae’n cynnwys—

    1. a

      person a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr; a

    2. b

      person a gymerir ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau.

  • At ddibenion y diffiniad hwn, mae i’r termau “a gyflogir”, “cyflogai”, a “gweithiwr” yr un ystyron ag “employed”, “employee” a “worker” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;

  • ystyr “ymweliad” (“visit”) yw ymweliad ag unigolyn at ddiben darparu gwasanaeth cymorth cartref.