RHAN 10Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio
Cefnogi a datblygu staffI136
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—
a
yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;
b
yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill.
c
yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;
d
yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i gael ei wneud ganddo;
e
yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;
f
yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach sy’n briodol i’r gwaith y mae’n ei wneud.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â’r corff rheoleiddiol neu alwedigaethol priodol.