RHAN 10Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio
Staffio - gofynion cyffredinolI134
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—
a
i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;
b
i anghenion gofal a chymorth yr unigolion;
c
i gefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol;
d
i ofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15.
2
Yn achos gwasanaeth cartref gofal pan fo unrhyw unigolyn y darperir llety iddo wedi cael ei asesu yn rhywun y mae angen gofal nyrsio 24 awr arno, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod nifer digonol o nyrsys cofrestredig sydd â’r cymwysterau addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth ar bob adeg.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth allu dangos y ffordd y mae’r penderfyniad wedi ei wneud o ran—
a
y mathau o staff a ddefnyddir, a
b
niferoedd y staff o bob math a ddefnyddir.
4
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
5
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw cyflogi neu gymryd ymlaen unrhyw bersonau ar sail dros dro neu ar gontract oriau heb eu gwarantu yn atal unigolion rhag cael y parhad gofal y mae’r darparwr wedi penderfynu yn unol â rheoliad 22 ei fod yn rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.
6
Ym mharagraff (5) o’r rheoliad hwn, mae i “contract oriau heb eu gwarantu” yr un ystyr ag yn rheoliad 42.