Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Gwasanaethau cymorth cartrefLL+C

3.—(1Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cymorth cartref, er gwaethaf paragraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cymorth cartref)—

(a)y ddarpariaeth o gymorth yn unig;

(b)y ddarpariaeth o ofal a chymorth i bedwar neu lai o unigolion ar unrhyw un adeg;

(c)y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer oedolyn—

(i)mewn perthynas deuluol neu bersonol, a

(ii)ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;

(d)y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth;

(e)y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan ofalwr pan fo gofal a chymorth o’r fath yn cael ei ddarparu heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadroddion “employment agency” neu “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973(1)), a phan fo’r gofalwr yn gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth trydydd parti cysylltiedig;

(f)trefniadau ar gyfer cyflenwi gofalwyr i ddarparwr gwasanaeth gan ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi at ddiben darparu gwasanaeth rheoleiddiedig gan y darparwr gwasanaeth;

(g)y ddarpariaeth o ofal a chymorth pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu gan berson sy’n rheoli carchar neu sefydliad carcharu tebyg arall[F1;]

[F2(h)y ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig;

(i)y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan Fwrdd Iechyd Lleol i ddiwallu anghenion syʼn gysylltiedig ag anghenion unigolion am ofal nyrsio[F3.]]

F4(j). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(2Ym mharagraff (1)(e) ac (f), ystyr “gofalwr” yw unigolyn sy’n darparu gofal i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

(3Ym mharagraff (1)(e), ystyr “trydydd parti cysylltiedig” yw—

(a)unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn ystyr “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(2)) ar gyfer plentyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;

(b)unigolyn a chanddo atwrneiaeth neu awdurdod cyfreithlon arall i wneud trefniadau ar ran yr unigolyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;

(c)grŵp o unigolion a grybwyllir naill ai yn is-baragraff (a) neu yn is-baragraff (b) sy’n gwneud trefniadau ar ran dim mwy na phedwar unigolyn a enwir y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddynt;

(d)ymddiriedolaeth a sefydlir at ddiben darparu gwasanaethu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn a enwir.

(4Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.