RHAN 2Eithriadau
Gwasanaethau cymorth cartrefI13
1
Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cymorth cartref, er gwaethaf paragraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cymorth cartref)—
a
y ddarpariaeth o gymorth yn unig;
b
y ddarpariaeth o ofal a chymorth i bedwar neu lai o unigolion ar unrhyw un adeg;
c
y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer oedolyn—
i
mewn perthynas deuluol neu bersonol, a
ii
ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;
d
y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth;
e
y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan ofalwr pan fo gofal a chymorth o’r fath yn cael ei ddarparu heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadroddion “employment agency” neu “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 197316), a phan fo’r gofalwr yn gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth trydydd parti cysylltiedig;
f
trefniadau ar gyfer cyflenwi gofalwyr i ddarparwr gwasanaeth gan ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi at ddiben darparu gwasanaeth rheoleiddiedig gan y darparwr gwasanaeth;
g
y ddarpariaeth o ofal a chymorth pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu gan berson sy’n rheoli carchar neu sefydliad carcharu tebyg arall.
2
Ym mharagraff (1)(e) ac (f), ystyr “gofalwr” yw unigolyn sy’n darparu gofal i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
3
Ym mharagraff (1)(e), ystyr “trydydd parti cysylltiedig” yw—
a
unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn ystyr “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 198917) ar gyfer plentyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;
b
unigolyn a chanddo atwrneiaeth neu awdurdod cyfreithlon arall i wneud trefniadau ar ran yr unigolyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;
c
grŵp o unigolion a grybwyllir naill ai yn is-baragraff (a) neu yn is-baragraff (b) sy’n gwneud trefniadau ar ran dim mwy na phedwar unigolyn a enwir y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddynt;
d
ymddiriedolaeth a sefydlir at ddiben darparu gwasanaethu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn a enwir.
4
Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.