RHAN 8Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau - diogelu
Cefnogi unigolion i reoli eu harianI128
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ynghylch cefnogi unigolion i reoli eu harian a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisi hwnnw a’r gweithdrefnau hynny.
2
Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol gan y rheoliad hwn iddynt fod yn eu lle nodi’r camau sydd i gael eu cymryd i alluogi a chefnogi pobl i reoli eu harian eu hunain ac i amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth ariannol.
3
Pan fo arian unigolyn yn cael ei ddal gan y darparwr gwasanaeth at unrhyw ddiben (ac eithrio arian a ddelir at ddiben talu ffioedd sy’n daladwy gan yr unigolyn yn unol ag unrhyw gytundeb â’r darparwr gwasanaeth), rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn ddarparu—
a
bod yr arian yn cael ei ddal mewn cyfrif yn enw’r unigolyn neu mewn cyfrif sy’n golygu bod modd gwahaniaethu’n glir rhwng arian pob unigolyn;
b
nad yw unrhyw gyfrif o’r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â rheoli’r gwasanaeth.
4
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau cyn belled ag y bo’n ymarferol nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn gweithredu fel asiant i unigolyn.