RHAN 8Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau - diogelu
Polisïau a gweithdrefnau diogeluI127
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—
a
ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a
b
ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.
2
Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau o’r fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
4
Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
gweithredu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau diogelu,
b
cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir gofal a chymorth iddo,
c
gwneud atgyfeiriadau priodol at asiantaethau eraill, a
d
cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.
5
Pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i blant, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle—
a
polisi ar atal bwlio;
b
gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio;
c
y weithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fo unrhyw blentyn y darperir llety iddo yn absennol heb ganiatâd.