RHAN 7Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu

GwybodaethI123

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan unigolion yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud neu gymryd rhan mewn asesiadau, cynlluniau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.

2

Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir fod ar gael yn yr iaith, yr arddull, y cyflwyniad a’r fformat priodol, gan roi sylw i—

a

natur y gwasanaeth fel y’i disgrifir yn y datganiad o ddiben;

b

y lefel o ddealltwriaeth yr unigolyn a’i allu i gyfathrebu;

c

yn achos plentyn, oedran y plentyn.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.