RHAN 7Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu

Safonau gofal a chymorth - gofynion cyffredinol21.

(1)

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.

(2)

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir y gofal a’r cymorth i bob unigolyn yn unol â chynllun personol yr unigolyn.

(3)

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir y gofal a’r cymorth mewn ffordd—

(a)

sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff; a

(b)

sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.

(4)

Os nad yw’r darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid i anghenion asesedig yr unigolyn, yn gallu diwallu’r anghenion hynny mwyach, hyd yn oed ar ôl gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r unigolyn, unrhyw gynrychiolydd, comisiynydd y gwasanaeth a’r awdurdod lleoli ar unwaith.