RHAN 2Eithriadau
Gwasanaethau cartrefi gofalI12
1
Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cartref gofal, er gwaethaf paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cartrefi gofal)—
a
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn—
i
mewn perthynas deuluol neu bersonol, a
ii
ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;
b
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion am gyfnod o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis neu am nifer o gyfnodau sy’n gyfanswm o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
c
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio, pan fo’r llety wedi ei freinio—
i
yng Ngweinidogion Cymru at ddibenion eu swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ii
mewn ymddiriedolaeth GIG;
iii
mewn Bwrdd Iechyd Lleol.
d
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu—
i
gan sefydliad o fewn y sector addysg bellach; neu
ii
gan brifysgol.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw nifer y personau y darperir y llety hwnnw iddynt yn fwy na degfed ran o nifer y myfyrwyr y mae’n darparu addysg a llety iddynt.
At ddibenion y paragraff hwn, mae i “sector addysg bellach” yr un ystyr â “further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199213;
e
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety a ddarperir yn gyfystyr â gofal dydd i blant, o fewn ystyr adran 19(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 201014.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os—
i
mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, oes 28 neu ragor o gyfnodau o 24 awr y darperir mwy na 15 awr o ofal dydd ynddynt mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (pa un a yw’r plentyn o dan 12 oed ai peidio);
ii
yw’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl.
f
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant 16 oed a throsodd a dim ond at ddibenion galluogi’r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl;
g
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant mewn hostel fechnïaeth a gymeradwyir neu hostel brawf a gymeradwyir;
h
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety yn sefydliad i droseddwyr ifanc a ddarperir o dan neu yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Carchardai 195215;
i
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen at ddibenion—
i
gwyliau;
ii
gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys—
i
mewn unrhyw achos pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl;
ii
os yw’r llety wedi ei ddarparu i unrhyw un plentyn am fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, os nad yw’r llety ond wedi ei ddarparu i blant dros 16 oed.
2
At ddibenion paragraff (1)(e), (f) ac (i) o’r rheoliad hwn, mae plentyn yn “anabl” os oes gan y plentyn anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.
3
Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.