RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i gael ei darparu i unigolion wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth

Gwybodaeth am y gwasanaethI119

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.

2

Rhaid i’r canllaw—

a

cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru yn ôl yr angen,

b

bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,

c

cael ei roi i bob unigolyn sy’n cael gofal a chymorth,

d

yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, gael ei roi i’r awdurdod lleoli, ac

e

cael ei wneud ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unigolyn.

3

Rhaid i’r canllaw gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

gwybodaeth am sut i godi pryder neu wneud cwyn;

b

gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli.

4

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.