RHAN 5Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i gael eu cymryd wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth
Asesiad darparwrI118
1
O fewn 7 niwrnod i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer unigolyn gael ei chychwyn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
asesu sut y gellir diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn orau,
b
asesu sut y gall yr unigolyn gael ei gefnogi orau i gyflawni ei ganlyniadau personol,
c
canfod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
d
asesu unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac
e
asesu unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt.
2
Cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at yr asesiad o dan baragraff (1) fel asesiad darparwr.
3
Rhaid i asesiad darparwr gael ei gynnal gan berson sydd—
a
â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a
b
wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.
4
Rhaid i asesiad darparwr ystyried—
a
cynllun gofal a chymorth yr unigolyn, os oes un ar gael,
b
asesiad y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 14(4), os yw’n gymwys,
c
unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,
d
safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
e
unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac
f
polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.
5
Wrth gynnal neu ddiwygio asesiad darparwr, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
a
os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu
b
pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
6
Rhaid i asesiad darparwr gael ei gadw o dan adolygiad a’i ddiwygio yn ôl yr angen.
7
Ar ôl cwblhau asesiad y darparwr ac unrhyw asesiad diwygiedig, rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu a’i ddiwygio yn ôl yr angen.
8
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw cofnod o asesiad darparwr a rhoi copi o’r asesiad i’r unigolyn, i unrhyw gynrychiolydd a, phan fo llety wedi ei ddarparu i’r plentyn gan wasanaeth cartref gofal, i’r awdurdod lleoli.