RHAN 5Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i gael eu cymryd wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth
Cynllun personolI115
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio cynllun ar gyfer yr unigolyn sy’n nodi—
a
sut y bydd anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd,
b
sut y bydd yr unigolyn yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ganlyniadau personol,
c
y camau a fydd yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw risgiau a nodir i lesiant yr unigolyn, a
d
y camau a fydd yn cael eu cymryd i gefnogi cymryd risgiau cadarnhaol ac annibyniaeth, pan benderfynwyd bod hyn yn briodol.
2
Cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at y cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio o dan baragraff (1) fel cynllun personol.
3
Rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio cyn i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn, oni bai bod paragraff (4) yn gymwys.
4
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achos pan fo ar yr unigolyn angen brys am ofal a chymorth ac nad oes amser wedi bod i lunio cynllun personol cyn i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn.
5
Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio o fewn 24 awr i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn.
6
Wrth lunio cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
a
os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu
b
pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
7
Wrth lunio’r cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried—
a
cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,
b
os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 14(4),
c
unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,
d
safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
e
unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac
f
unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt.